BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

PACEY Cymru - Helpu pobl i gymryd eu camau cyntaf at ddod yn warchodwr plant

Helpu pobl i gymryd eu camau cyntaf at ddod yn warchodwr plant

Mae Kankshi yn warchodwr plant a gofrestrwyd yn ddiweddar, ac aelod PACEY. Mae hi wedi derbyn cefnogaeth gan ei Awdurdod Lleol, Busnes Cymru a PACEY Cymru trwy gydol ei thaith i ddod yn warchodwr plant cofrestredig yng Nghymru. 

Gallai PACEY Cymru roi dealltwriaeth dda i Kankshi o beth yw gwarchodwr plant a beth maen nhw’n ei wneud trwy'r sesiwn briffio cychwynnol trylwyr, a chwrs hyfforddi â chefnogaeth dda, a helpodd y ddau i baratoi Kankshi i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru AGC ac wrth ddod yn warchodwr plant. Defnyddiodd Kankshi hefyd y fforymau cymorth cyn cofrestru y mae PACEY Cymru yn cynnal, a oedd yn caniatáu iddi rwydweithio gyda gwarchodwyr plant eraill a rhannu gwybodaeth a syniadau gyda nhw. 

Trwy gyllid Awdurdod Lleol, gallai Kankshi gyrchu cefnogaeth ffôn ac e-bost gyda Kim Chatterton, un o gydlynwyr gwarchod plant PACEY Cymru. Roedd y gefnogaeth hon yn hynod werthfawr i Kankshi, yn enwedig wrth gwblhau ei chais CIW, a gyda’r anawsterau a gafodd wrth gael geirda meddygol lle’r oedd Kim yn gallu cyfeirio Kankshi at y Canllaw Cofrestru Wedi’i Addasu ar gyfer ymgeiswyr a darparwyr mewn ymateb i COVID-19. Nododd Kankshi “Mae Kim wedi bod mor gymwynasgar drwyddo draw, dwi'n cysylltu â hi trwy e-bost gydag unrhyw ymholiadau sydd gen i a byddai’n derbyn ateb cyn gynted â phosib...mae hi wedi bod mor gefnogol”. Fe wnaeth Kim hefyd cyfeirio Kankshi at Fusnes Cymru, lle llwyddodd i gael gafael ar grant bach tuag at ddiogelwch yn ei lleoliad. 

Ar ôl cofrestru, roedd Kankshi yn gyffrous i ddechrau gwarchod plant. Tanysgrifiodd i'r aelodaeth PACEY a phrynodd y Pecyn Offer PACEY er mwyn cefnogi ei busnes newydd a sicrhau ei fod yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau'r llywodraeth a newidiadau i'r ddeddfwriaeth. Mae aelodaeth Kankshi wedi golygu ei bod hi'n gallu cyrchu toreth o wybodaeth, DPP, cefnogaeth gyfreithiol a busnes a mynediad at gymorth rhwng cymheiriaid un-i-un o arbenigwyr gwarchod plant. Gwnaeth cynnwys y pecyn offer argraff fawr arni hefyd. Yn benodol, credodd bod y contractau'n gymhwysfawr ac yn hawdd eu defnyddio.  

Mae Kankshi yn meddwl bod ei haelodaeth PACEY yn rhoi mynediad iddi i adnoddau a chefnogaeth gwych, a bod gwefan PACEY yn offer gwerthgawr yn ystod y proses gofrestru a thu hwnt. Mae PACEY Cymru yn gweithio’n galed i sicrhau bod ganddo'r wybodaeth ddiweddaraf a lle bo angen, mae’n benodol i Gymru. 

Gwybodaeth bellach 
Byddai PACEY Cymru yn croesawu unrhyw drafodaethau ynghylch cynnwys yr astudiaeth achos hon ac ar gymorth busnes sydd ar gael. 
Cysylltwch â:
Claire Protheroe, Rheolwr Cenedlaethol Cymru 
E-bost: claire.protheroe@pacey.org.uk   
Ffôn: 07766 568 546


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.