Mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu gwlad gryfach, tecach a gwyrddach, gydag economi sy'n seiliedig ar waith teg, cynaliadwyedd a sectorau'r dyfodol.
Rydym yn helpu busnesau, y trydydd sector, cyrff sector cyhoeddus a sefydliadau ymchwil i arloesi a chreu cynnyrch a gwasanaethau newydd. Gall hynny gynnwys help i’w masnacholi, gwella sgiliau a sicrhau bod Cymru yn parhau’n gystadleuol ac yn gweithio i fod yn ddi-garbon yn y dyfodol.
Mae Cymorth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART ar gael i unrhyw sefydliad gan gynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol a byrddau iechyd sydd am Ymchwilio, Datblygu ac Arloesi.
I sefydliad newydd, gallai hyn olygu cael mynediad at dechnoleg i roi hwb i syniad newydd am y tro cyntaf; ar gyfer sefydliad sy'n datblygu, gallai olygu cymorth gyda phrosiect y gwyddoch fod ganddo botensial; ac i sefydliad sefydledig, gallai olygu cael gwybodaeth arbenigol er mwyn rhoi mantais ryngwladol i chi trwy agor marchnadoedd newydd.
Fe’i cyflwynir gan dîm o beirianwyr, gwyddonwyr a diwydianwyr arbenigol, ac arbenigwyr eiddo deallusol, sy'n helpu sefydliadau Cymru i gyflawni "Rhagoriaeth Arloesi".
Yn gynyddol, mae hyn yn golygu canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a'r economi gylchol fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fyd gwell.
Mae'r cynllun yn ymwneud â thri pheth:
- Arbenigedd - rydym yn gweithio yng Nghymru ond mae gennym fynediad at rwydwaith o arbenigwyr ledled y DU.
- Arian – gall cyllid fod yn allweddol, felly gallwn eich helpu i gael gafael ar gyllid.
- Cymorth – cyngor arbenigol gan fframwaith cymeradwy o gynghorwyr.
Cymorth Arloesi Hyblyg SMART
Cefnogaeth SMART FIS ar waith
Mae Haydale yn gwmni datrysiadau deunyddiau datblygedig blaenllaw sy'n arbenigo mewn dylunio, datblygu a masnacheiddio deunyddiau mewn math penodol o graffen. Gan ddefnyddio cefnogaeth SMART FIS Llywodraeth Cymru datblygwyd ymdrechion ymchwil a datblygu'r cwmni, gan ganiatáu iddo gymryd camau rhyfeddol i hyrwyddo ei ddatrysiadau gwresogi arloesol sy'n seiliedig ar graffen.
Edrychwch sut y gallech elwa o gefnogaeth debyg drwy ddarllen am eu llwyddiant.
Y Camau Nesaf
Os ydych chi'n credu mai dyma'r gefnogaeth addas ar gyfer eich sefydliad chi, y cam nesaf yw cysylltu.
Gan fod cymaint o ddiddordeb yn arian FIS SMART rydym yn cymryd mwy o amser nag arfer i ymateb i ymholiadau. Bydd aelod o'n tîm mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.