Dysgu’r hanfodion am amddiffyn IP a sut i gael y gorau ohono, o dan arweiniad ein harbenigwyr.
Beth y gall IP ei wneud i chi
Gall eiddo deallusol eich helpu i wneud y mwyaf o'ch syniadau..
Beth gallwn ni ei wneud er lles eich busnes:
- ateb cwestiynau sylfaenol am batentau, marciau masnach, hawlfraint, dylunio a thrwyddedu
- eich helpu i chwilio cronfeydd data patentau ac IP eraill
- cyfrannu at gost ffeilio patentau a cheisio am farc masnach neu gost llunio cytundeb trwyddedu
- eich helpu i lunio strategaeth IP
Cysylltwch â ni ar intellectual.property.information@llyw.cymru am ragor o wybodaeth.
DOLENNI DEFNYDDIOL
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am batent yn y DU drwy'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO).
Mae hawl dylunio yn amddiffyn eich dyluniad yn awtomatig am 10 mlynedd ar ôl i'r dyluniad gael ei werthu gyntaf neu 15 mlynedd ar ôl iddo gael ei greu - pa un bynnag sydd gynharaf.
Darllenwch y canllaw i gael nod masnach, gan gynnwys yr hyn y gallwch ac na allwch ei gofrestru fel nod masnach.
Gallwch gofrestru golwg cynnyrch rydych wedi'i gynllunio i atal pobl rhag ei gopïo neu ei ddwyn.
Mae patent yn amddiffyn eich dyfais ac yn gadael i chi gymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy'n gwneud, defnyddio, gwerthu neu fewnforio eich dyfais heb eich caniatâd.
Mae hawlfraint yn diogelu eich gwaith ac yn atal eraill rhag ei ddefnyddio heb eich caniatâd.