Pan fyddwch yn dewis dod â’ch busnes i un o'r wyth Ardal Fenter yng Nghymru, gallwch ddibynnu ar yr amodau gorau posibl i'ch busnes ffynnu – gan gynnwys cymorth oddi wrth lywodraeth sydd o blaid busnes, y sgiliau y mae eu hangen arnoch i dyfu, seilwaith rhithwir a seilwaith go iawn o'r radd flaenaf, ac amrywiaeth eang o gyfleoedd o ran eiddo a datblygu, yn ogystal â gorbenion cystadleuol iawn.
P'un a ydych am ddechrau menter newydd neu'n awyddus i dyfu, fe welwch eu bod yn cynnig manteision hynod ddeniadol i fusnesau, gan gynnwys:
- amgylchedd busnes sy'n hyrwyddo twf economaidd a rhannu gwybodaeth
- gweithlu medrus a theyrngar, ac amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi
- cysylltiadau â sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach a Chanolfannau Ymchwil a Datblygu sy'n canolbwyntio ar waith masnachol
- gofod pwrpasol a chostau eiddo cystadleuol, sy’n cael eu hategu gan benderfyniadau cynllunio cyflym
- cryfderau unigryw sy’n seiliedig ar asedau naturiol Cymru
- seilwaith sefydledig sy'n rhoi mynediad i farchnadoedd, yn ogystal â chadwyni cyflenwi sydd wedi ennill eu plwyf a rhai sy’n cael eu datblygu
- partneriaeth gref rhwng Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill
- cartref i nifer o enwau sydd wedi hen ennill eu plwyf megis Aston Martin, Deloitte, Magnox, Teves Ymerodrol, Tata, Valero, Airbus, Minesto a’r BBC