BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Rhybudd Preifatrwydd – Chwilio Cyllid

Cafodd y rhybudd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 7 Mawrth 2018.


Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Fusnes Cymru ac Idox, ac yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC), rydym ni wedi datblygu Rhybudd Preifatrwydd sy’n ymdrin â pham yr ydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth.  Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.


Cymerwch ychydig amser er mwyn ymgyfarwyddo eich hun â’n hymarferion preifatrwydd. 

1. Pam yr ydym yn casglu ac yn prosesu’r data a gasglwyd.

Llywodraeth Cymru yw’r Rheolydd Data ar gyfer y data personol yr ydych wedi’i darparu ar ffurflen gofrestru Fy Musnes i yng Nhymru.  Mae cyfran gyfyngedig o’r data yn cael ei basio i’n darparwr trydydd parti, Idox; mae hyn yn galluogi i’ch chwiliadau sydd wedi cael eu harbed gael eu defnyddio gennych chi yn y dyfodol.  Lle yr ydych chi wedi gofyn am dderbyn rhybuddion ynglŷn â chyllid sy’n cydweddu â’ch chwiliadau sydd wedi cael eu harbed, yna bydd y rhain yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost.


2.  Mae’r wybodaeth bersonol a fydd yn cael ei chasglu a’i chadw yn cynnwys:

  • cyfeiriad e-bost
  • enw cyntaf
  • cyfenw


3.  Pwy fydd yn cael mynediad at eich data?


Bydd y wybodaeth a rennir yn gallu cael ei gweld gan weinyddwyr technegol system Idox a chan reolwyr prosiect sy’n cefnogi’r system T.G.  Ni fydd y gweinyddwyr hyn yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw fodd.

4. Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl i:

  • gael mynediad at eich data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi
  • ofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
  • wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau)
  • gwneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

 
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Cyswllt y Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Caer
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

Ar gyfer cael help gydag unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â’n Llinell Gymorth Busnes Cymru os gwelwch yn dda ar 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni.
             

5. Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth chi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu’r cyhoedd i ofyn am gael gweld y wybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru.  Gall y wybodaeth yr ydych chi’n ei darparu ar ein cyfer fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd.  Byddwn ni’n ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.

6. Newidiadau i’r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud rhai newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg.  Bydd newidiadau yn cael eu rhoi yma ac maen nhw’n dod i rym yn syth.    Pan mae newidiadau i’r polisi hwn yn digwydd, byddwn yn cysylltu â chi gyda’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn i chi allu adolygu’r fersiwn newydd.

Ar gyfer gwybodaeth bellach ynglŷn â’ch hawliau gwybodaeth

Cyfeiriad post:
Swyddog Gwarchod Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost:  dataprotectionofficer@llyw.cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.