Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Ffoniwch 03000 6 03000

Rhyddhad ardrethi busnes yng Nghymru

1. Trosolwg

Mae Ardrethi Annomestig (NDR) hefyd yn cael eu galw'n ardrethi busnes, a threthi ydynt i helpu i dalu am wasanaethau lleol. Fe’u telir ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig.  Os ydych yn talu ardrethi busnes, fe all eich eiddo fod yn gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes.

Mae rhai adeiladau wedi eu heithrio rhag ardrethi busnes, ac eraill yn gymwys ar gyfer:

  • y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach
  • rhyddhad ardrethi i elusennau a sefydliadau di-elw
  • rhyddhad ar eiddo gwag

Fe all eich awdurdod lleol hefyd ganiatáu rhyddhad caledi i fusnesau os yw’n credu y byddai o fudd i’r gymuned leol i wneud hynny.

2. Sut y caiff eich ardrethi busnes eu cyfrifo

Caiff eich ardreth busnes ei gyfrifo trwy gymryd Gwerth Ardrethol (RV) eiddo a'i luosogi gyda 'lluosydd' (neu'r 'tâl yn y bunt') cyfredol ar gyfer ardrethi annomestig. Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) sydd yn prisio eiddo ac yn pennu'r Gwerth Ardrethol. Gallwch apelio yn erbyn eich Gwerth Ardrethol os fyddwch yn credu ei fod yn anghywir.

O fis Ebrill 2018 mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y lluosydd yn ôl  y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ac ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 bydd y lluosydd yn 0.526.

Apelio yn erbyn prisiadau eiddo

Os ydych eisiau gwneud apêl, cysylltwch â’r VOA. Os na fedrwch chi a’r VOA ddod i gytundeb, mae’n rhaid i’r VOA drosglwyddo eich apêl i Dribiwnlys Prisio Cymru.

3. Mathau o rhyddhad ardrethi

Mae’r safleoedd sydd wedi’u heithrio rhag ardrethi busnes yn cynnwys:

  • tir ac adeiladau amaethyddol gan gynnwys ffermydd pysgod
  • adeiladau a ddefnyddir at ddibenion hyfforddi neu les pobl anabl
  • adeiladau a gofrestrwyd yn addoldai cyhoeddus a neuaddau eglwys

Gallwch gael hyd i restr o'r mathau o safleoedd sydd wedi'u heithrio yn Atodlen 5 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau bach cymwys.

  • bydd safleoedd busnes cymwys sydd â gwerth ardrethol hyd at £6,000 yn cael rhyddhad o 100%
  • bydd y rheini sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad ar raddfa a fydd yn gostwng o 100% i sero

Lawrlwythwch daflen wybodaeth a'r arweiniad llawn ar Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach yng Nghymru.

Bydd y mathau isod o fusnesau yn cael rhyddhad ardrethi fel a ganlyn:

Safle Gofal Plant Cofrestredig

  • mae darparwyr gofal plant cofrestredig yn cael rhyddhad o 100% tan 31 Mawrth 2022, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd yn cael ei werthuso er mwyn asesu ei effaith

Swyddfeydd Post

  • bydd Swyddfeydd Post sydd â gwerth ardrethol hyd at £9,000 yn cael rhyddhad o 100%
  • bydd y rheini â gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn cael rhyddhad o 50%

Terfyn Amlfeddiannaeth

Os yw talwr ardrethi yn gyfrifol am fwy na dau eiddo ar un rhestr ardrethi annomestig leol (“rhestr leol”), ac mai dim ond yr amodau gwerth ardrethol y mae’r eiddo yn eu bodloni, bydd y talwr ardrethi yn cael rhyddhad ar gyfer uchafswm o ddau eiddo o’r fath yn unig.

Rhyddhad Trosiannol

Yn dilyn gwaith ailbrisio ardrethi annomestig gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn 2017, bydd rhyddhad trosiannol yn cael ei weithredu i helpu’r rhai nad ydynt bellach yn gymwys i gael yr un Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR).

Bydd y cynllun rhyddhad trosiannol yn cael ei gyflwyno i roi cymorth i drethdalwyr a oedd yn cael SBRR ar 31 Mawrth 2017 ac a welodd ostyngiad yng nghanran yr SBRR yr oedd ganddynt hawl iddo ar 1 Ebrill 2017, oherwydd bod eu Gwerthoedd Ardrethol wedi cynyddu yn dilyn yr ailbrisio.

Bydd SBRR yn cael ei gymhwyso cyn rhyddhad trosiannol. Bydd y rhyddhad trosiannol yn gweithio drwy gyflwyno unrhyw gynnydd mewn atebolrwydd dros gyfnod o 3 blynedd (25% o gynnydd mewn atebolrwydd ym mlwyddyn 1, 50% ym mlwyddyn 2 a 75% ym mlwyddyn 3).

Trethdalwyr cymwys yw:

  • y rheini sy’n symud o SBRR llawn i SBRR rhannol
  • y rheini sy’n symud o SBRR llawn i ddim SBRR
  • y rheini sy’n symud o SBRR rhannol i ddim SBRR
  • y rheini sy’n aros o fewn SBRR rhannol, ond yn gweld cynnydd yn eu Gwerth Ardrethol

Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr a Manwerthu yng Nghymru

Nod Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr a Manwerthu, sy’n werth £23.6 miliwn, yw helpu manwerthwyr yng Nghymru, fel siopau, tafarnau, bwytai, a chaffis. Bydd y cynllun gwell yn darparu cymorth i holl fanwerthwyr yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000.

Cewch lawrlwytho’r wybodaeth am Gynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr a Manwerthu yng Nghymru. Mae rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwysedd yn y canllawiau hyn.

Yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu pryd i ganiatáu rhyddhad ardrethi, gan ystyried pob achos yn unigol, a bydd y rhyddhad hwnnw ar gael o 1 Ebrill 2019 hyd at 31 Mawrth 2020.

Prosiectau Ynni Dŵr

Rydym yn darparu grantiau i helpu prosiectau pŵer dŵr cymwys i echdynnu  ynni o gyrsiau dŵr er mwyn cynhyrchu trydan.  Gall brosiectau pŵer dŵr sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000 wneud cais am gymorth tuag at eu ardrethi busnes ar gyfer 2019-20.  Mae’r Ffurflen Gais a’r ddogfen Ganllaw ar gael yma.  

Rhyddhad ardrethi i elusennau

Os ydy’ch eiddo wedi’i feddiannu gan elusen gofrestredig neu glwb chwaraeon amatur cymunedol ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol, ‘rydych yn gymwys yn awtomatig am ryddhad ardrethi gorfodol o 80%.

Fe allech fod yn gymwys am rhyddhad o hyd at 100% yn ôl disgresiwn y cyngor lleol os ydy’ch eiddo wedi’i feddiannu gan gorff di-elw ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion:

  • elusennol
  • dyngarol
  • crefyddol
  • addysgol
  • gwyddonol
  • sy’n ymwneud â lles cymdeithasol
  • sy’n ymwneud â llenyddiaeth
  • sy’n ymwneud â chelfyddyd gain
  • sy’n ymwneud â hamdden gan glwb neu gymdeithas ddi-elw

Rhyddhad ardrethi ar eiddo gwag

Nid oes angen talu ardrethi busnes ar eiddo busnes gwag am 3 mis ar ôl i'r eiddo ddod yn wag.

Mae eithriadau ychwanegol ar gyfer mathau penodol o eiddo, neu eiddo â gwerth ardrethol sy'n llai na lefel benodol.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • safleoedd diwydiannol, fel warysau, sy’n cael eu heithrio am 3 mis pellach
  • adeiladau rhestredig sy’n cael eu heithrio nes iddynt gael eu meddiannu eto
  • adeiladau â gwerth ardrethol o lai na £2,600 sy’n cael eu heithrio nes iddynt gael eu meddiannu eto
  • safleoedd sy'n eiddo i elusennau, sy’n cael eu heithrio os yw'r defnydd nesaf a wneir ohonynt yn debygol o fod yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion elusennol
  • adeiladau clybiau chwaraeon amatur cymunedol sy’n cael eu heithrio os yw'r defnydd nesaf a wneir ohonynt yn debygol o fod yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion clwb chwaraeon
  • busnesau dan berchnogaeth cwmni sy'n cydymffurfio â’r gorchymyn dirwyn i ben a wneir dan Ddeddf Ansolfedd 1986, neu sy’n cael eu dwyn i ben yn wirfoddol dan y Ddeddf honno
  • busnesau dan berchnogaeth cwmni sydd yn nwylo’r gweinyddwyr o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 neu sy'n ddarostyngedig i  orchymyn gweinyddu a wnaed o dan y darpariaethau gweinyddu blaenorol o fewn ystyr erthygl 3 o Orchymyn Deddf Menter 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2003
  • busnes y mae gan y perchennog hawl i feddiant yn rhinwedd ei ddyletswydd fel cynrychiolydd personol person ymadawedig yn unig

Ar ôl i'r cyfnod eithrio ddod i ben, byddwch yn gorfod talu'r bil ardrethi busnes llawn.

Dylech roi gwybod i'ch awdurdod lleol pan ddaw eiddo'n wag a hefyd pan fydd yn cael ei ail-feddiannu.

Rhyddhad caledi

Fe all eich awdurdod lleol hefyd ganiatáu rhyddhad caledi i fusnesau os yw’n credu y byddai o fudd i’r gymuned leol i wneud hynny. I gael rhagor o wybodaeth am ryddhad caledi cysylltwch â'ch awdurdod lleol.

 

 

4. Eiddo Hunanddarpar

Os yw eich eiddo yng Nghymru ac ar gael i’w osod yn fasnachol fel eiddo hunanddarpar yna bydd yn cael ei raddio ac yn cael gwerth ar gyfer ardrethi annomestig, ar yr amod y bodlonir meini prawf penodol. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyfrifo'r gwerth ardrethol yn seiliedig ar y math o eiddo, ei faint a’i leoliad.

O 1 Ebrill 2010 ymlaen yng Nghymru, mae eiddo hunanddarpar yn cael ei gyfrif fel eiddo annomestig, ac felly yn gorfod talu ardrethi annomestig, os yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn fodlon:

  • bod yr eiddo ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy’n dod i gyfanswm o 140 diwrnod neu ragor yn y 12 mis canlynol

  • bod buddiant y trethdalwr yn yr eiddo yn ei alluogi i’w rentu am gyfnodau o’r fath

  • y bu’r eiddo, yn y 12 mis cyn yr asesiad, ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy’n dod i gyfanswm o 140 diwrnod neu ragor

  • bod y cyfnodau byr y’i gosodwyd yn fasnachol mewn gwirionedd yn dod i gyfanswm o 70 diwrnod o leiaf yn ystod y cyfnod hwnnw

O 1 Ebrill 2016 ymlaen yng Nghymru, bydd y meini prawf uchod yn parhau i fod yn gymwys, ond mae darpariaeth newydd hefyd yn cael ei chyflwyno fel bod:

  • busnesau sy'n cynnwys sawl eiddo hunanddarpar yn yr un lleoliad neu yn agos iawn at ei gilydd yn cael yr opsiwn i rannu ar gyfartaledd nifer y diwrnodau y caiff  yr holl adeiladau eu gosod i fodloni’r maen prawf o 70 diwrnod os mai yr un busnes neu fusnesau cysylltiedig sy’n eu gosod

Gallwch gael cyngor ac arweiniad llawn ar asesu eiddo hunanddarpar yng Nghymru yn y llyfryn hwn.

 

Rhannwch y canllaw hwn

Conversion pixel