BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Sicrhau ymrwymiad yr uwch reolwyr

Sicrhau Cydsyniad yr Uwch Reolwyr

Bydd gwella effeithlonrwydd dŵr eich busnes yn arbed arian, yn lleihau eich effaith ar yr amgylchedd, yn gwella enw da eich busnes ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi trwy ostwng costau gweithredu.  

Bydd datblygu cynllun effeithlonrwydd dŵr yn helpu i reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â phrinder dŵr a sychder, yn ogystal â’ch helpu i gydymffurfio ag egwyddorion a safonau amgylcheddol. Er enghraifft, bydd cwtogi ar eich defnydd o ddŵr hefyd yn lleihau eich ôl troed carbon a gall eich helpu i gyrraedd targedau lleihau carbon.

Cyn cychwyn ar raglen lleihau dŵr (neu hyd yn oed raglen atal gwastraff neu leihau ynni!), mae sicrhau ymrwymiad y rheolwyr yn bwysig. Mae’n bwysig cofio bod gan bob cyflogai gyfraniad i’w wneud, a gallant helpu i gasglu data, neu trwy gynnig syniadau ac awgrymiadau. 

Mae angen ymrwymiad ar y lefel uchaf oherwydd:

  • bydd yn rhaid i uwch reolwyr gymeradwyo unrhyw newidiadau, yn enwedig i brosesau neu arferion gweithio;
  • bydd yn rhaid dyrannu staff ac adnoddau i ymchwilio i arbedion ac i’w gweithredu; ac 
  • mae’n bosibl na fyddai gwybodaeth am filiau a defnydd o ddŵr, er enghraifft, ar gael heb gysylltu ag adrannau a staff eraill

Gall fod yn haws i gael cymeradwyaeth ac ymrwymiad os oes gennych syniad yn barod o faint yr arbedion posibl, a gallwch bwysleisio bod y defnydd presennol yn ormodol. Gallai awgrymu mesurau arbed dŵr dim cost neu gost isel, ynghyd â’r arbedion cost a ragwelir gynyddu eich siawns o lwyddo.  

Wrth ofyn am ymrwymiad yr uwch reolwyr i fabwysiadu rhaglen lleihau dŵr, dylech fod â syniad o’r lefelau staffio a faint o adnoddau fydd eu hangen i’w gweithredu. Pan fyddwch wedi cytuno ar gwmpas y fantolen ddŵr ag uwch reolwyr, bydd modd amcangyfrif lefel yr adnoddau fydd eu hangen i’w datblygu, ac i gael cymeradwyaeth ar gyfer yr adnoddau hyn gan y tîm rheoli. Bydd yr adnoddau a ddyrennir yn dibynnu ar faint y broses neu’r maes yr ymchwilir iddo.

Efallai mai un unigolyn fydd yn gyfrifol am wneud y gwaith yn rhan amser neu gallai tîm cymysg o staff peirianyddol, cynhyrchu ac amgylcheddol ddatblygu’r fantolen ddŵr. Mae rhai cwmnïau wedi defnyddio myfyrwyr ar leoliad gwaith i gasglu data. 

Penodi tîm ar gyfer y prosiect; dylai aelodau’r tîm gynnwys cynrychiolwyr o bob adran sy’n gyfrifol am ddefnyddio a chyflenwi dŵr. Mae’n hanfodol bod arweinydd tîm neu ‘hyrwyddwr’ yn cael ei benodi i weithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer y rhaglen ac a all fod yn gyfrifol am effeithlonrwydd dŵr a dŵr gwastraff o ddydd i ddydd. 

Y cam cyntaf wrth asesu’r arbedion posibl fydd datblygu mantolen ddŵr i ddangos ble mae dŵr yn cael ei ddefnyddio, a mapio sut y mae dŵr yn cyrraedd ac yn gadael y safle. Bydd y fantolen ddŵr yn helpu i ganfod cyfleoedd cost effeithiol i arbed dŵr. Ceir rhagor o fanylion ar ddatblygu mantolen ddŵr yng nghanllaw – Sut i ddatblygu cynllun sy'n gwneud defnydd effeithlon o ddŵr.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.