Cynnwys
1. Crynodeb
Patentau yw’r ffordd y diogelir eich dyfeisiadau. Mae’r adran hwn yn edrych ar beth yw patentau ac yn esbonio sut mae chwilio patentau.
2. Patentau
Un o’r prif fathau o Eiddo Deallusol yw Patentau. Mae patentau’n diogelu dyfeisiadau.
Rhaid i ddyfais fod yn newydd er mwyn cael patent.
Mae hyn yn golygu bod yn RHAID i chi gadw’ch dyfais yn gyfrinachol, o leiaf nes byddwch chi’n gwneud cais am batent, a gorau oll os gallwch chi ei gadw’n gyfrinachol gyhyd â phosib.
Os oes eisiau trafod y ddyfais arnoch ag unrhyw un, rhaid i chi sicrhau cyfrinachedd, er enghraifft gyda Chytundeb Dim Datgelu (NDA) – byddwn yn trafod hyn yn nes ymlaen yn y modiwl hwn, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK
Mae’n bosib bod modd cael patent ar gynnyrch neu broses rydych chi’n eu datblygu os yw'n:
- newydd – syniad cwbl newydd, nad oes neb wedi'i gyflwyno i’r cyhoedd o’r blaen, hyd yn oed gennych chi
- dyfeisgar, ac nad yw hynny’n amlwg i rywun sydd â gwybodaeth am y pwnc a phrofiad ohono
- y gellir ei wneud neu ei ddefnyddio mewn rhyw fath o ddiwydiant
Cofiwch, gall patentau fod yn gymhleth ac yn ddrud – mae’n beth anghyffredin iawn i'r sawl sy’n cael patent wneud arian ohono.
Ceisiadau am batent
Mae gan bob gwlad ei system ei hun ar gyfer patentau. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi wneud cais ar wahân ym mhob gwlad lle rydych chi am ddiogelu’ch dyfais. Fodd bynnag, mae Swyddfa Batentau Ewrop yn prosesu patentau’n ganolog ar ran y gwledydd sy’n aelodau.
Bydd swyddfa batentau’n asesu pob cais, yn gyntaf er mwyn gweld a oes modd cael patent, yna er mwyn caniatáu’r patent.
Mae patentau’n para am 20 mlynedd o'r dyddiad cyflwyno, ond rhaid eu diweddaru bob blwyddyn fel rheol (neu bob 4 blynedd yn yr Unol Daleithiau).
Defnyddiwch y templed patentau hwn (MS Word 12kb) i weld a yw patentau'n iawn ar gyfer eich busnes chi.
3. PATLIB
Mae PATLIB yn rhwydwaith o ganolfannau gwybodaeth am eiddo deallusol ar gyfer Ewrop gyfan. Mae PATLIB yn cynnig mynediad i’r gwefannau sydd ar gael i’r cyhoedd, a nodir yn y canllaw hwn.
Mae help sylfaenol i chwilio am batent ar gael ar sail galw heibio a gallwch drefnu apwyntiadau yng nghlinigau misol PATLIB i gael trafodaethau mwy manwl.
Ewch i wefan GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth.
4. Chwilio patentau
Y cam cyntaf yw canfod a yw’ch dyfais yn newydd go iawn. Mae offer pwerus ar gael i’ch helpu i wneud hyn.
Espacenet - http://worldwide.espacenet.com – sef offer chwilio patentau AM DDIM sydd wedi’i ddatblygu gan Swyddfa Batentau Ewrop.
Gallwch ddefnyddio geiriau allweddol ar espacenet i chwilio am ddyfeisiadau tebyg i'ch un chi. Gallwch ei ddefnyddio i chwilio am batentau sydd wedi’u cyflwyno gan eich cystadleuwyr hefyd. Mae tiwtorial ar sut mae defnyddio espacenet yn
http://www.european-patent-office.org/wbt/espacenet/assistant.php
Os ydych chi’n meddwl bod angen cyflwyno cais am batent arnoch chi, neu ymchwilio i faes penodol o dechnoleg, mae’n werth treulio rhywfaint o amser yn dysgu sut mae defnyddio espacenet.
Mae peiriannau chwilio patentau ar-lein hefyd ar gael am ddim gan:
- swyddfa Batentau a Nodau Masnach yr Unol Daleithiau: http://patft.uspto.gov/
- sefydliad Eiddo Deallusol y Byd: www.wipo.int/patentscope/search/en/search.jsf
Mae rhai peiriannau chwilio lle codir ffi hefyd.
Yn ogystal â hyn, mae cwmnïau ar gael sy'n chwilio drwy batentau ar eich rhan am ffi. Fodd bynnag, efallai y byddai'n well gennych chwilio eich hun yn y lle cyntaf.