BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Telerau ac amodau

Amodau a thelerau’r wefan

Rheolir www.busnescymru.llyw.cymru, a elwir yn Busnes Cymru, gan Lywodraeth Cymru: (sef ‘Ni’ isod). Drwy ymweld â’r wefan hon, rydych chi fel defnyddiwr ‘(‘Chi’) yn derbyn y telerau ac amodau hyn. Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf, 28 Gorffennaf, 2016.

Mae gwasanaethau cymorth busnes Llywodraeth Cymru, yn cynnwys Busnes Cymru ar gael i chi at ddibenion defnydd ac edrych personol. Mae cyrchu a defnyddio Busnes Cymru gyda’r amodau a’r telerau hyn yn arwydd eich bod yn derbyn yr amodau a’r telerau hyn. Byddant yn weithredol o’r dyddiad i chi ddefnyddio’r wefan hon gyntaf. 

Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r safle hwn at ddibenion cyfreithiol yn unig, ac mewn modd nad yw’n tramgwyddo hawliau, yn cyfyngu nad yn atal defnydd na mwynhad y safle hwn gan unrhyw drydydd parti. Mae’r cyfryw gyfyngiad neu ataliad yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu neu achosi trallod i unrhyw berson, a throsglwyddiad cynnwys anllad neu dramgwyddus neu amharu ar lif deialog arferol o fewn y safle hwn. 

Fe’ch gwaherddir chi rhag postio neu drosglwyddo drwy’r wefan hon unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, enllibus, anllad, tramgwyddus na gwarthus neu unrhyw ddeunydd sydd yn, neu sy’n annog, ymddygiad y gellid ei ystyried yn weithred droseddol, sy’n debygol o arwain at atebolrwydd neu rwymedigaeth sifil, neu sydd fel arall yn torri unrhyw gyfraith. Gwnawn gydweithredu’n llawn gydag unrhyw awdurdodau gorfodi’r gyfraith neu orchymyn llys sy’n gofyn neu yn ein cyfarwyddo ni i ddatgelu hunaniaeth unrhyw un sy’n gosod unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau o’r math ar y wefan.


Eich gwybodaeth chi a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae darpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn berthnasol i ni. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosib y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth sydd gennym ni, gan gynnwys unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni, os cawn gais rhyddid gwybodaeth. Os gofynnir i ni roi unrhyw wybodaeth a roddwyd i ni gennych chi, byddwn fel arfer yn ymgynghori â chi er mwyn gweld pa niwed, os o gwbl, fyddai'n cael ei achosi o ddatgelu'r wybodaeth i'r cyhoedd. 

Oni nodir fel arall yn y Telerau ac Amodau hwn, ni fyddwn yn rhannu'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni ag unrhyw drydydd parti, oni bai am yr amgylchiadau canlynol:

  • bod dyletswydd arnom ni i ddatgelu neu rannu'r wybodaeth er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad cyfreithiol (e.e. Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000)
  • er mwyn gorfodi neu weithredu ein Telerau Defnyddiwr ac unrhyw gytundebau perthnasol eraill
  • i warchod hawliau, eiddo neu ddiogelwch eraill
  • os byddwn yn rhoi neu'n trosglwyddo'r gwaith allanol o rheoli a/neu weithredu'r wefan hon neu rannau ohoni i drydydd parti, i alluogi'r trydydd parti hwnnw i barhau i ddarparu mynediad i chi i'r wefan neu i unrhyw un o'r gwasanaethau a ddarperir gan y wefan

Gosod dolenni i ac o busnescymru.llyw.cymru 

Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i osod dolenni i’r wybodaeth sy’n gynwysedig ar y tudalennu hyn, ac nid oes angen i chi ofyn caniatâd i gysylltu â Busnes Cymru.

Fodd bynnag, nid ydym yn rhoi caniatâd i chi awgrymu fod eich gwefan yn gysylltiedig â neu wedi ei chymeradwyo gan Busnes Cymru.

Pan fo’n safle’n cynnwys dolenni cyswllt i wefannau eraill ac adnoddau a ddarperir gan unrhyw drydydd parti, darperir y cysylltiadau hyn er eich gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd na’r adnoddau hyn, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu niwed y gellid ei achosi o’ch defnydd chi ohonynt.

Defnyddio cynnwys busnescymru.llyw.cymru

Cyhoeddir Busnes Cymru drwy'r Trwydded Llywodraeth Agored, a chewch atgynhyrchu gwybodaeth o’r safle cyn belled â’ch bod yn cadw at delerau’r drwydded honno.

Mae’r deunydd ar y safle hwn wedi ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Darllenwch dudalen hawlfraint y Goron am wybodaeth bellach.

Mae’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n dynodi Llywodraeth Cymru yn nodau perchnogol i Lywodraeth Cymru. Ni chaniateir copïo na defnydd o’r logo a/neu unrhyw logos trydydd parti eraill a gyrchir drwy’r wefan hon heb gymeradwyaeth ymlaen llaw perchennog yr hawlfraint berthnasol. 

Dylid cyfeirio unrhyw geisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logo Llywodraeth Cymru at Dîm Brandio Cyfathrebu Corfforaethol Llywodraeth Cymru. E-bost: brandingqueries@llyw.cymru.

Ymwadiad

Darperir gwefan Busnes Cymru a’r deunydd sy’n ymwneud â gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau llywodraeth (neu i wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) ‘fel y mae’, heb unrhyw gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath boed hynny’n benodol neu’n oblygedig yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu, i’r gwarantau goblygedig o addasrwydd, sicrwydd, cyflawnder a chywirdeb, safon ddigonol, addasrwydd at ddiben penodol, heb dor-cyfraith.

Nid ydym yn gwarantu nac yn arddel, y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd sydd ar gael ar y wefan hon heb amhariad neu wallau, y caiff diffygion eu cywiro, neu y bydd y safle neu’r gweinydd sy’n sicrhau ei fod ar gael yn rhydd rhag firysau neu’n cynrychioli swyddogaeth, gywirdeb neu ddibynadwyedd llawn y deunyddiau.

Ni fyddwn, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol am unrhyw draul, golled neu ddifrod yn cynnwys, yn ddigyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ôl-ddilynol neu unrhyw draul, golled neu ddifrod sy’n codi o ddefnydd, neu golled defnydd, unrhyw ddata, neu golled elw, yn sgil neu mewn perthynas â defnydd Busnes Cymru neu unrhyw ddibyniaeth ar ei gynnwys. 

Ni ellir gwarantu fod unrhyw drosglwyddiadau data dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Tra fyddwn yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu gwybodaeth o’r fath, nid ydym yn gwarantu ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth a drawsyrrir gennych atom ni. Felly hefyd, eich cyfrifoldeb chi yw unrhyw wybodaeth a drawsyrrir gennych chi atom ni. 

Ni ddylid defnyddio cynnwys gwefan Busnes Cymru yn lle cyngor proffesiynol annibynnol a dylai defnyddwyr sicrhau cyngor proffesiynol priodol a pherthnasol i’w hamgylchiadau neilltuol.

Fe allai’r deunydd gynnwys barn neu argymhellion gan drydydd partïon, nad ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru, nac yn fynegiant o’i ymrwymiad i gamau gweithredu penodol. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd a allai godi yn sgil deunydd o’r math gan drydydd parti.

Cyfeiriadur Busnesau

Yn ogystal â'r ymwadiad cyffredinol uchod, sylwch nad ydym yn gwneud dim sylwadau ynghylch cywirdeb neu ddibynadwyedd unrhyw wybodaeth, cynnwys neu hysbysebion  sydd wedi'u cynnwys yng Nghyfeiriadur Busnesau Cymru (y 'Cyfeiriadur'), ac a ddosberthir drwy'r Cyfeiriadur, sy'n gysylltiedig ag ef ac/neu a lawrlwythir o wefannau'r gwasanaethau a'r busnesau a'r gwefannau cysylltiedig sydd wedi'u cynnwys ynddo. Nid ydym yn gwarantu ansawdd unrhyw wasanaethau, cynnyrch, gwybodaeth neu ddeunyddiau sydd i'w gweld ar y Cyfeiriadur neu y byddwch chi efallai yn eu cael neu eu prynu o ganlyniad i, neu mewn perthynas ag unrhyw beth a restrir yn y Cyfeiriadur neu unrhyw wybodaeth arall ynddo. 

Chi sy'n gyfrifol am gynnal yr archwiliadau gofynnol i sicrhau bod y gwasanaethau a gynigir gan fusnes ar y Cyfeiriadur yn diwallu'ch anghenion penodol chi a/neu bod busnes yn meddu ar achrediad addas ac yswiriannau priodol.

Nid ydym yn gyfrifol am gywirdeb, cyfreithlondeb na gwedduster deunydd sydd wedi'i gynnwys ar wefannau sy'n ymddangos yn ein Cyfeiriadur. Os ydych yn teimlo bod manylion unrhyw fusnesau a restrir yn amhriodol, yn anghyfreithlon neu'n dramgwyddus, cysylltwch â ni.

Rydym yn cadw'r hawl, yn ôl ein disgresiwn ni a heb unrhyw rwymedigaeth o gwbl, i newid neu ddileu manylion unrhyw fusnes ar y rhestr neu i gywiro unrhyw wall neu hepgoriad mewn unrhyw ran o'r Cyfeiriadur.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golledion y gallech eu hwynebu, gan gynnwys unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli busnes neu elw nac unrhyw golled ariannol arall sy'n deillio o'ch defnydd o'r Cyfeiriadur neu mewn cysylltiad â'ch defnydd ohono. 

Cyfraith berthnasol

Caiff yr amodau a’r telerau hyn eu llywodraethu a’u dehongli’n unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw ddadleuon a gyfyd yn sgil yr amodau a’r telerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Diogelwch rhag firysau

Rydym yn gwneud ein gorau glas i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’i gynhyrchu. Rhaid i chithau gymryd camau diogelwch eich hun i sicrhau nad yw’r prosesau a ddefnyddir gennych chi’n eich gwneud yn agored i risg feirysau, codau cyfrifiadur maleisus neu unrhyw ffurf arall o ymyrraeth a allai ddifrodi eich system gyfrifiadurol chi.  Mae hi bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-feirysau ar bob deunydd a lawrlwythir o’r rhyngrwyd.

Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu i’ch system gyfrifiadurol a achosir drwy ddefnyddio deunydd sy’n deillio o'r wefan hon

Fe allwn ddiwygio’r amodau a’r telerau hyn ar unrhyw bryd heb rybudd. Dylech eu gwirio’n rheolaidd. Bydd parhau i ddefnyddio gwefan Busnes Cymru wedi newid yn arwydd eich bod yn derbyn y newidiadau. 

Cyffredinol

Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am fethiant i gydymffurfio â’r telerau a’r amodau pan fo methiant o’r fath oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol ni. Os ydym Ni’n ildio unrhyw hawliau sydd ar gael o dan yr amodau a’r telerau ar un achlysur, nid yw hynny’n golygu y caiff yr hawliau hynny eu hildio’n otomatig ar unrhyw achlysur arall. Os ystyrir fod unrhyw rai o’r amodau a’r telerau na ellir eu gorfodi’n gyfreithiol neu’n annilys neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, er hynny, bydd yr amodau a’r telerau sy’n weddill yn parhau’n llawn.

Cysylltu â gwefannau eraill

Mae’r wefan hon yn defnyddio dolenni i ac o wefannau adrannau llywodraeth a chyrff eraill. Rydym am ei gwneud hi’n glir bod y telerau ac amodau hwn (sef yr un yr ydych yn ei ddarllen)  yn perthyn i wefan Busnes Cymru yn unig.

Dilyn dolen i wefan arall

Os ewch chi i wefan arall o’r wefan hon, darllenwch bolisi preifatrwydd y wefan honno os gwelwch yn dda os ydych am wybod beth fydd y wefan honno’n gwneud gyda’ch gwybodaeth.

Dilyn dolen i ac o busnescymru.llyw.cymru o wefan arall

Pan fyddwch yn cyrraedd busnescymru.llyw.cymru o wefan arall, mae’n bosib y cawn wybodaeth bersonol amdanoch gan y wefan honno.  Dylech ddarllen bolisi preifatrwydd y gwefannau yr ewch iddynt sy’n cysylltu chi gyda Busnes Cymru os ydych eisiau gwybodaeth am hyn.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.