BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Beth mae'r Fforwm wedi'i gyflawni?

Fforwm Adeiladu Cymru: “Ailgodi Cymru’n Gryfach” Gweld llwyth gwaith y dyfodol yn glir

Beth mae'r Fforwm wedi'i gyflawni?

Yn ei flwyddyn gyntaf, cyflwynodd y Fforwm yn dda yn erbyn ei gynllun gweithredu tymor byr 12 pwynt y cytunwyd arno i arwain y broses o adfer y sector allan o argyfwng Covid-19, gan ganolbwyntio'n benodol ar nodi cyfleoedd llif gwaith tymor byr a sicrhau diogelwch llif arian i fusnesau. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys:

  1.  cynhyrchu rhaglen tymor byr o waith yn y sector cyhoeddus, y cyfeirir ati'n aml fel "y llif gwaith", i gynyddu hyder busnesau, sicrhau cyflogaeth a helpu i gynllunio ar gyfer hyfforddiant, prentisiaethau a chyfleoedd gwerth cymdeithasol.  Perchnogion y cynllun sy'n rheoli cynnwys y llif prosiectau a gellir ei weld ar GwerthwchiGymru (Dogfennau yn ôl Categori - GwerthwchiGymru (llyw.cymru)). Sylwch fod hon yn ddogfen waith sy'n cael ei hadolygu'n gyson. Dylid nodi hefyd nad yw cael eich cynnwys o fewn dogfen y llif prosiectau yn gwarantu y bydd y gwaith yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad ac na fydd yn destun unrhyw newidiadau.   
  2.  "canllaw 12 cam" newydd i gefnogi partneriaid adeiladu'r sector cyhoeddus a'r sector preifat i baratoi cyfrifon banc prosiect (PBAs) ar gyfer contractau'r sector cyhoeddus. Bydd y PBAau yn rhoi sicrwydd llif arian i gontractwyr a busnesau bach a chanolig fel rhan o bolisi Llywodraeth Cymru o dalu teg. Mae'r canllaw rhyngweithiol, a gynhyrchwyd gan Weithgor Seilwaith y Fforwm ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, i'w weld yma yn y Gymraeg https://bit.ly/3uyQ8kO a'r Saesneg https://bit.ly/3B6RJ3I
  3.  Map Ffordd datgarboneiddio ar gyfer Adeiladau Sero Net 
  4.  mewnbwn ar draws y diwydiant i ymgynghoriadau'r llywodraeth ar ddiwygio caffael.




Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.