BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Y Contract Economaidd

Cytundeb yw’r Contract Economaidd rhwng Llywodraeth Cymru a'r busnesau y mae'n eu cefnogi sy’n nodi sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd fel partneriaid i greu busnesau cydnerth sy'n cynnig lle deniadol i weithio. 


Mae'r Contract Economaidd yn ymrwymiad i fuddsoddi arian cyhoeddus a blaenoriaethu anghenion cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru wrth adeiladu economi lesiant gref a ffyniannus.  Yn ganolog i’r cytundeb hwn rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau y mae’r egwyddor o ‘Rywbeth yn gyfnewid am Rywbeth’, i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu ac i wella bywydau pobl ledled Cymru.

Drwy’r Contract Economaidd, bydd busnesau’n dangos sut  y byddan nhw’n cyfrannu at yr egwyddorion hyn ac mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r cymorth anariannol y bydd yn ei roi yn gyfnewid am hynny. Bydd yn gofyn i fusnesau ddangos sut y maen nhw’n gweithredu ym mhob un o'r meysydd canlynol ac yn ymrwymo i ddatblygiadau newydd ar ffurf addunedau:

Economi Hyblyg a Chryf
Mewn economi hyblyg a chryf, mae sefydliadau’n gallu datblygu busnesau gwell a chryfach ac yn gallu gwrthsefyll newidiadau i amodau’r economi a’r farchnad, ac addasu iddyn nhw.  Mae sefydliadau'n tyfu'n gynaliadwy ac yn meithrin cysylltiadau cydweithredol cryf. 

Gwaith Teg
Mae Gwaith Teg yn golygu bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo’n deg, bod ganddynt lais a chynrychiolaeth, eu bod yn ddiogel ac yn cael symud yn eu blaenau mewn amgylchedd iach a chynhwysol lle mae hawliau'n cael eu parchu. Rydym yn defnyddio'r diffiniad llawn o Waith Teg fel y’i gwelir yn adroddiad Cymru Gwaith Teg.

Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ar gyfer pob grŵp gwarchodedig yn rhan annatod o'r chwe nodwedd:

1. Gwobrwyo teg
2. Llais i’r gweithiwr a chynrychiolaeth gyfunol 
3. Sicrwydd a hyblygrwydd
4. Cyfle ar gyfer mynediad, twf a dilyniant 
5. Amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol
6. Hawliau cyfreithiol sy'n cael eu parchu a'u rhoi ar waith

Hyrwyddo Lles 
Mae busnes sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo lles pobl yn un sy'n cymryd camau rhagweithiol i:

•    Sicrhau gweithlu iachach, gan wneud y gorau er eu lles corfforol a meddyliol 
•    Cyfrannu at gymdeithas iachach 
•    Cyfrannu at greu cymunedau cydlynol sy'n ddeniadol, yn llwyddiannus, yn ddiogel ac wedi'u cysylltu'n dda
•    Hyrwyddo a diogelu ein diwylliant, ein treftadaeth a'n hiaith Gymraeg, gan annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.

Carbon Isel a Gwrthsefyll yr Hinsawdd
Mae busnes carbon isel sy'n gwrthsefyll yr hinsawdd yn un sy'n cymryd camau cadarnhaol i leihau ei allyriadau carbon ac yn magu’r gallu i wrthsefyll ac ymateb i'r bygythiadau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil effeithiau hinsawdd sy’n newid drwy addasu arferion busnes ar gyfer y dyfodol.

Caiff y piler hwn ei gyflawni yn unol ag egwyddorion Newid Cyfiawn a ddisgrifir yn ein Cynllun Cyflawni Carbon Sero Net. 


Cytunir ar Gontractau Economaidd gyda busnesau a sefydliadau y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda nhw ac yn eu cefnogi. 

Er nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â chyllid, mae'n fan cychwyn i wneud cais am gymorth busnes uniongyrchol fel y Gronfa Dyfodol yr Economi.  Nid yw llofnodi Contract Economaidd yn warant o gyllid. 

Mae'r Contract Economaidd yn parhau i esblygu i gyflawni blaenoriaethau busnesau a’r llywodraeth a'n helpu i adeiladu economi ffyniannus, gwyrdd a chyfartal.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.