BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd

Y system gynllunio yng Nghymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 October 2022
Diweddarwyd diwethaf:
18 September 2023

Cynnwys

1. Trosolwg

Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o'r system gynllunio. Mae'n esbonio pryd y mae angen caniatâd cynllunio arnoch a sut y gallwch wneud cais amdano.

Mae ganddo ddolenni cyswllt i'r Porth Cynllunio, sy'n cynnig cyngor ar y system gynllunio ar gyfer Cymru a Lloegr. Dylech wneud yn siŵr eich bod yn edrych ar gynnwys sy'n berthnasol i Gymru drwy sicrhau mai’r ddraig goch sydd yng nghornel dde uchaf sgrîn y Porth Cynllunio.

2. Y system gynllunio

Mae'n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru – y cynghorau neu awdurdodau’r parciau cenedlaethol fel rheol -  lunio cynlluniau datblygu lleol, sy'n egluro'r fframwaith cyffredinol ar gyfer gwaith datblygu derbyniol yn eu hardaloedd.

Caniatâd cynllunio

Mae'r system gynllunio yn rheoli'r modd y caiff tir ei ddefnyddio a'r hyn a gaiff ei adeiladu arno, a chaiff y system ei gorfodi gan yr awdurdod cynllunio sy’n gyfrifol am benderfynu a ddylid caniatáu i ddatblygiad arfaethedig fynd rhagddo ac yna rhoi neu wrthod ganiatâd cynllunio.

Rhaid i benderfyniadau ceisiadau cynllunio gyd-fynd â chynllun datblygu lleol yr awdurdod cynllunio oni bai bod rheswm da iawn dros beidio.

Rhwymedigaethau cynllunio

Gall rhwymedigaethau cynllunio helpu i oresgyn rhwystrau a allai atal caniatâd cynllunio rhag cael ei roi. Fel rheol bydd rhwymedigaethau cynllunio'n gytundebau rhwymo rhwng datblygwr a'r awdurdod cynllunio.

Mae rhwymedigaeth naill ai’n gofyn i’r datblygwr ddarparu cyfraniad ariannol, seilwaith ffisegol neu gynllun rheoli mewn perthynas i’w cynigion datblygu neu’n cyfyngu ar yr hyn y gellir ei wneud â’r tir yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio.

Cyn cytuno â rhwymedigaeth gynllunio, gallech ddewis gofyn am gyngor cyfreithiol i sicrhau eich bod yn deall yn union beth a allai olygu.

Asesiad Effaith Amgylcheddol

Mae Asesiad Effaith Amgylcheddol yn asesu sut y bydd y datblygiad arfaethedig yn effeithio ar yr amgylchedd cyfagos a'r amgylchedd ehangach yn gyffredinol. Mae’n rhaid cael Asesiad Effaith Amgylcheddol ar gyfer:

  • datblygiadau mawr penodol (achosion 'Atodlen 1')
  • datblygiadau penodol eraill, sy'n debygol o arwain at effeithiau amgylcheddol sylweddol (achosion 'Atodlen 2'

Mae prosiectau Atodlen 1 yn cynnwys

  • gweithfeydd diwydiannol mawr
  • seilwaith trafnidiaeth
  • datblygiadau'n ymwneud â diwydiannau echdynnu.

Mae prosiectau Atodlen 2 yn cynnwys datblygiadau megis

  • gwaith cynhyrchu a phrosesu metel
  • peirianwaith diwydiannau cemegol
  • cyfleusterau diwydiannau hamdden
  • phrosiectau datblygiadau trefol yn cynnwys tai

Mae'n rhaid i chi gael Asesiad Effaith Amgylcheddol gyda cheisiadau cynllunio llawn ac amlinellol, a gall hefyd fod yn berthnasol i geisiadau i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl.

Os oes angen Asesiad Effaith Amgylcheddol ar eich datblygiad, dylech gyflwyno’r datganiad amgylcheddol ar y cyd â'ch cais cynllunio. Lawrlwythwch ganllawiau ar Asesiad Effaith Amgylcheddol o wefan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (PDF, 256K)

3. Pryd y mae angen caniatâd cynllunio arnoch

Fel rheol bydd angen caniatâd cynllunio arnoch i:

  • godi'r rhan fwyaf o adeiladau newydd
  • gwneud newidiadau mawr i adeiladau presennol
  • gwneud newidiadau sylweddol i ddefnydd adeilad neu ddarn o dir

Ond mewn rhai achosion bydd 'hawliau datblygu a ganiateir' yn golygu na fydd angen ichi wneud cais am ganiatâd – dysgwch ragor gan eich awdurdod cynllunio.

Newid defnydd safle

Mewn llawer o achosion, ni fydd angen caniatâd cynllunio i newid defnydd adeilad neu dir. Gallwch ddarllen am ddosbarthiadau defnydd ac os oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd ai peidio ar wefan y Porth Cynllunio.  Cofiwch wneud yn siwr fod y faner yng nghornel dde uchaf y sgrîn yn dangos eich bod yn edrych ar gynnwys sy’n berthnasol i Gymru.

Mae'n debygol y bydd angen caniatâd cynllunio ar y rhan fwyaf o waith adeiladu allanol sy'n gysylltiedig â newid defnydd.

Newidiadau defnydd y mae angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer

Bydd angen caniatâd cynllunio bob amser ar gyfer newidiadau defnydd o bwys sy'n ymwneud â:

  • chanolfannau difyrion
  • theatrau
  • iardiau sborion
  • gorsafoedd petrol
  • lleoedd arddangos ceir
  • busnesau tacsis a hurio ceir
  • hosteli

Yr eithriad yw newid defnydd safle o fod yn lle arddangos ceir i fod yn ddefnydd Dosbarth A1.

Cyn trafod telerau prydles neu brynu eiddo, dylech holi a oes angen ichi gael caniatâd cynllunio ar gyfer eich defnydd arfaethedig, ac os felly, pa mor debygol yw o gael ei roi.

Fflatiau uwchben siopau

Gallwch drosi'r gofod uwchben siopau ac adeiladau eraill yn y stryd fawr i'w defnyddio fel fflatiau (a'u trosi'n ôl) heb ganiatâd cynllun, os nad ydych yn newid edrychiad allanol yr adeilad.

Datblygu warysau a diwydiannol, ysgolion, colegau, prifysgolion ac ysbytai, swyddfeydd, siopau, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol

Mae Hawliau Datblygu a Ganiateir yn cynnwys mân estyniadau i’r adeiladau hyn gan gynnwys, mewn rhai achosion, codi adeiladau ychwanegol o fewn ffiniau eiddo, neu’r 'cwrtil'. Lawrlwythwch a darllenwch ganllaw ar hawliau datblygu a ganiateir newydd, a ddaethant i rym 28 Ebrill 2014. 
 

Caniatâd cynllunio i weithio gartref

Ni fyddwch o reidrwydd angen caniatâd cynllunio i weithio gartref, cyhyd â bod yr adeilad yn parhau i gael ei ddefnyddio'n bennaf fel tŷ annedd.

Mae gweithio gartref yn cynnwys:

  • defnyddio rhan o'ch cartref yn fflat un ystafell neu'n llety gwely a brecwast
  • defnyddio ystafell yn swyddfa bersonol
  • darparu gwasanaeth gwarchod plant
  • defnyddio ystafelloedd i wneud dillad neu roi gwersi cerddoriaeth
  • defnyddio adeilad yn yr ardd i storio nwyddau sy'n gysylltiedig â busnes

Fodd bynnag, byddwch angen caniatâd cynllunio fel rheol:

  • os na fydd eich cartref yn cael ei ddefnyddio'n bennaf fel cartref preifat mwyach
  • os bydd y busnes yn arwain at fwy o draffig neu ymwelwyr
  • os bydd y busnes yn cynnwys unrhyw weithgareddau sy'n anarferol mewn ardaloedd preswyl
  • os bydd y busnes yn tarfu ar eich cymdogion ar adegau afresymol neu'n creu mathau eraill o niwsans, megis sŵn neu arogleuon

Os yw eich eiddo yn adeilad rhestredig, efallai y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig yn ogystal â chaniatâd cynllunio.

Os nad ydych yn siŵr a fyddai datblygiad yn waith datblygu a ganiateir nad oes angen caniatâd cynllunio penodol ar ei gyfer, holwch eich awdurdod cynllunio.

Hawliau datblygu a ganiateir a dynnwyd yn ôl

Efallai y bydd eich awdurdod cynllunio wedi tynnu rhai hawliau datblygu a ganiateir yn ôl drwy gyflwyno cyfarwyddyd a wnaed yn lleol, neu drwy ddiddymu'r hawliau hynny drwy amod sydd wedi'i gynnwys mewn caniatâd cynllunio presennol ar gyfer y safle. Os yw wedi gwneud hynny, bydd yn rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio. Gallwch ofyn i'ch awdurdod cynllunio am gadarnhad os nad ydych yn siŵr a oes hawliau datblygu a ganiateir wedi'u tynnu'n ôl.

Tystysgrifau Datblygiad Cyfreithlon

Os ydych am fod yn siŵr nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich cynnig – neu'ch bwriad i barhau â math o ddefnydd tir – gallwch wneud cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon.

Nid oes rhaid ichi wneud cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon, ond efallai y bydd angen un arnoch i gadarnhau bod defnydd, gweithrediad neu weithgaredd yn gyfreithlon at ddibenion cynllunio. Darllenwch am Dystysgrifau Datblygiad Cyfreithlon ar wefan y Porth Cynllunio. Dylech edrych ar faner y 'wlad' yn y gornel dde uchaf i wneud yn siŵr eich bod yn edrych ar gynnwys sy'n berthnasol i Gymru.

Safleoedd annomestig: cyfarpar microgynhyrchu

Lawrlwythwch a darllenwch ganllaw ynghylch hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer cyfarpar microgynhyrchu

4. Gwneud cais cynllunio a'ch hawl i apelio

Dylech ofyn i'ch awdurdod cynllunio lleol a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer y gwaith y bwriadwch ei gyflawni. Os oes angen caniatâd, efallai y bydd yr awdurdod cynllunio yn gallu dweud a yw eich prosiect yn debygol o gael ei gymeradwyo.

Gallwch gyfarfod â swyddog cynllunio am drafodaeth anffurfiol, os yw’r awdurdod cynllunio yn cynnig gwasanaeth o’r fath – ond cofiwch y gellid codi tâl amdano. Bydd angen ichi fod yn barod i ddisgrifio eich cynigion a dangos eich cynlluniau.

Ceisiadau cynllunio amlinellol

Yn achos adeilad newydd, gallwch wneud cais amlinellol i ganfod a yw'r datblygiad yn dderbyniol o ran egwyddor. Mantais y drefn hon yw nad oes angen cynlluniau manwl, ond byddai o gymorth pe gallech roi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl i'r awdurdod cynllunio. Pan fydd caniatâd amlinellol wedi'i roi, bydd angen ichi ofyn i'r manylion gael eu cymeradwyo (materion a gadwyd yn ôl) cyn y gall y gwaith ddechrau. Mae'r materion hynny'n cynnwys mynediad, ymddangosiad, gwaith tirlunio, cynllun a maint. Rhaid bod yr hyn a gynigir gennych yn gyson â'r caniatâd amlinellol. Os bydd eich cynigion wedi newid mewn unrhyw fodd, efallai y bydd angen ichi ailgyflwyno cais.

Ceisiadau cynllunio llawn

Yn achos cais cynllunio llawn, bydd angen cyflwyno holl fanylion y cynnig. Mae cais o'r fath yn briodol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • os ydych am newid defnydd tir neu adeiladau
  • os ydych am ddechrau gwaith yn fuan

Gwneud cais am ganiatâd cynllunio

Rhaid i gais cynllunio llawn gael ei gyflwyno gyda'r cynlluniau angenrheidiol o'r safle, y dogfennau ategol gofynnol, y ffurflen sydd wedi'i llenwi a'r ffi. Efallai y bydd angen datganiad dylunio a mynediad hefyd. Gallwch gael gwybodaeth am wneud cais cynllunio ar wefan y Porth Cynllunio.

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein i gyflwyno eich cais.

Y broses benderfynu

Yn aml, swyddog cynllunio fydd yn dod i benderfyniad am fân geisiadau cynllunio, dan bwerau a ddirprwywyd. Fel arall, bydd swyddog cynllunio'n cyflwyno penderfyniad a argymhellir i bwyllgor cynllunio. Efallai y cewch fynychu’r cyfarfod.

Yna, deuir i benderfyniad ynghylch eich cais cyn pen wyth wythnos i ddyddiad y cais ffurfiol, er y gallai ceisiadau cymhleth gymryd mwy o amser na hynny. Os na all eich awdurdod cynllunio ddod i benderfyniad ynghylch eich cais o fewn y cyfnod penodedig, dylai gael caniatâd ysgrifenedig gennych i ymestyn y terfyn amser. Fel arall, gallwch apelio ar sail 'achos o fethu penderfynu' drwy'r Arolygiaeth Gynllunio.

Os caiff eich cais ei wrthod

Os bydd yr awdurdod cynllunio’n gwrthod caniatâd cynllunio neu'n pennu amodau, bydd yn rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig ichi.

Os byddwch yn anfodlon â'r rhesymau dros wrthod rhoi caniatâd neu’r amodau a bennwyd, neu’n ansicr ohonynt, dylech gysylltu â'ch awdurdod cynllunio. Gallech hefyd ganfod a oes ffyrdd y gallech addasu eich cynnig er mwyn gwella ei obeithion o gael ei dderbyn. Yn gyntaf, gofynnwch i'r awdurdod cynllunio a allai newid eich cynlluniau wneud gwahaniaeth. Os yw eich cais wedi'i wrthod, efallai y cewch gyflwyno cais arall gyda chynlluniau a addaswyd am ddim o fewn 12 mis i ddyddiad y penderfyniad ar eich cais cyntaf.

Fel arall, os byddwch yn credu bod penderfyniad yr awdurdod cynllunio’n afresymol, gallwch apelio drwy'r Arolygiaeth Gynllunio. Gallwch ddarllen gwybodaeth ar wneud apêl cynllunio ar wefan y Porth Cynllunio. Cofiwch wneud yn siwr eich bod yn darllen gwybodaeth ar gyfer Cymru. 

 

Dylech bob amser wneud cais am ganiatâd cynllunio cyn i'r gwaith ddechrau. Fel arall, gallech gael hysbysiad gorfodi sy'n mynnu eich bod yn tynnu adeilad na awdurdodwyd i lawr neu'ch bod yn rhoi'r gorau i ddefnydd tir na awdurdodwyd.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.