Cymorth i fusnesau ynni a'r amgylchedd
Rydym yn cefnogi busnesau ynni a’r amgylchedd sy’n gweithio yn y meysydd canlynol:
- cynhyrchu a defnyddio ynni, er enghraifft, nwy a niwclear
- ynni adnewyddadwy ac amgen, er enghraifft, offer cynhyrchu ynni gwynt a biodanwydd
- effeithlonrwydd ynni, er enghraifft, effeithlonrwydd ynni diwydiannol a storio ynni
- technolegau a rheoli gwastraff, er enghraifft, offer technoleg gwastraff ac ailgylchu ac ychwanegu gwerth at brosesu gwastraff
- gwasanaethau cynnal amgylcheddol, fel, cwmnïau ymgynghori amgylcheddol
Os ydy’ch busnes chi’n gweithio yn y meysydd uchod, mae’n bosib y gallwn eich helpu chi efo:
- cyngor ar fasnach ryngwladol
- cymorth arloesi
- help i gael hyd i adeiladau busnes newydd
- cyngor ar wella sgiliau eich gweithlu
- cyflwyno tendr am gontractau sector cyhoeddus a sector preifat
- gwneud y defnydd gorau o’r dechnoleg ar-lein i dyfu eich busnes
Fe allech fod yn gymwys am ein cymorth ariannol, yn ddibynnol ar argaeledd
Egnioli Rhwydwaith Cymru
Mae Egnioli Cymru yn rhwydwaith busnes am ddim llwyddiannus ar gyfer cwmnïau yng Nghymru sy'n gweithio ym maes ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni a'r rheini sydd â diddordeb mewn arallgyfeirio i mewn i'r sector. Mae'r rhwydwaith yn cynnig llwyfan i gyfnewid gwybodaeth rhwng gosodwyr, aseswyr, cyflenwyr a phrynwyr technolegau a gwasanaethau effeithlonrwydd ynni a microgynhyrchu. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.
Byw yn Glyfar - am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 03000 6 03000