Submitted by s8080_user on
Mae'r strategaeth newydd hon ar gyfer rheoli cyrchfannau'n pennu'r cyfeiriad strategol cyffredinol ar gyfer twristiaeth ym Mannau Brycheiniog o 2012 i 2016.
Cafodd ei ysgrifennu i gyd-fynd â Chynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 2010-2015, gofynion y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Twristiaeth Gynaliadwy mewn Ardaloedd Gwarchodedig a'r cyd-destun polisi cyfredol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.
Mae'r strategaeth yn cynnwys y nodau canlynol;
- Creu a chynnal swyddi o ansawdd drwy'r flwyddyn, drwy fentrau hyfyw
- Gwarchod a gwella nodweddion arbennig yr ardal (ei diwylliant naturiol a diwylliannol) a hyrwyddo dealltwriaeth ohonynt
- Gwella ansawdd bywyd a chyfleoedd i drigolion lleol
- Darparu profiad boddhaus, cyfoethog i ymwelwyr, a hwnnw ar gael i bawb
- Lleihau effeithiau amgylcheddol byd-eang a lleol ymweliadau â Bannau Brycheiniog.
Enghraifft o brosiect
Cerdded yw'r gweithgaredd pwysicaf o bell ffordd ym Mannau Brycheiniog a bydd hyn yn parhau o dan y strategaeth newydd. Mae'r blaenoriaethau o dan y camau gweithredu hyn yn cynnwys:
- Parhau i roi blaenoriaeth uchel i gynnal a chadw llwybrau, teithiau cerdded wedi'u cynnal a'u cadw'n dda ar bob lefel a gwybodaeth hawdd ei chael.
- Annog mwy o hyrwyddo pecynnau cerdded, gan gynnwys aros dros nos yn seiliedig ar lwybrau wedi'u hyrwyddo a chryfhau'r cysylltiadau a'r hyrwyddo gyda thrafnidiaeth gyhoeddus