Amgylchedd Busnes Canol Caerdydd
Sgiliau a’r Byd Academaidd
Mae’ch gweithlu posib yn Ardal Fenter Canol Caerdydd yn fawr ac yn fedrus.
Mae 1.4 miliwn o bobl yn byw o fewn hanner awr o gymudo i’r brifddinas – ac mae hynny’n debygol o gynyddu wrth i’r rhwydwaith trenau gael ei drydaneiddio a chynlluniau ar droed i godi 40,000 o gartrefi newydd dros y deng mlynedd nesaf fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol Dinas Caerdydd.
Mae rhanbarth Caerdydd yn gartref i hanner y 140,000 o weithwyr medrus sy’n gweithio yn y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yng Nghymru, tra bod gan 30% o holl weithlu’r ddinas gymhwyster gradd o leiaf.
Gallwch ddisgwyl cymorth ariannol gennym i ddatblygu sgiliau yn ogystal â chronfa gynyddol o ddoniau: mae campws Addysg Bellach newydd yng nghanol yr Ardal yn darparu cyrsiau masnachol a phroffesiynol ac yn gweithio gyda busnesau i greu rhaglenni hyfforddi pwrpasol.
Bydd cyfle i fanteisio ar ein cysylltiadau cryf a sefydlog gydag academyddion a myfyrwyr ein tair prifysgol. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o Brifysgolion Grŵp Russell ac yn cynhyrchu mwy o raddedigion Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU. Mae gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru dair ysgol fusnes, tair ysgol y gyfraith a 70,000 o fyfyrwyr rhyngddynt.
Mae lleoliad y brifddinas yn golygu bod 50,000 o fyfyrwyr Abertawe, Bryste a Chaerfaddon o fewn cyrraedd hwylus hefyd.
Yn olaf, mae’ch buddsoddiad mewn pobl yn talu ar ei ganfed yma: mae graddedigion yn dueddol o aros yma a’n gweithlu yn hynod o ffyddlon.
Sectorau
Twf y sector busnes yw canolbwynt Ardal Fenter Canol Caerdydd, gan gynnwys y Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol a busnesau swyddfa eraill.
Mae ymchwil yn dangos mai ni yw’r hoff leoliad ar gyfer canolfannau gwasanaethau cyswllt a chydwasanaethau yn y DU, ac mae’n henw da ym meysydd adnoddau dynol, gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau corfforaethol eraill yn cynyddu.
Banciau a’r cymdeithasau adeiladu yw’r mwyafrif yn y sector gwasanaethau ariannol yma ar hyn o bryd, tra bod cwmnïau yswiriant a phensiwn yn is-sector pwysig.
Mae’r gweddill yn gweithio mewn mentrau gweithredu a goruchwylio eraill yn cynnwys:
- broceriaid yswiriant
- cynghorwyr ariannol annibynnol
- rheolwyr cronfeydd
- rheolwyr asedau
- broceriaid stoc
- actiwarïaid, aseswyr colledon; rheolwyr risg
- cyfnewidfeydd
- rheolwyr cyfoeth
Wrth i ddiwydiant bancio’r DU gael ei ailstrwythuro, mae yna gyfleoedd mawr yng Nghaerdydd ar gyfer:
- yswiriant
- rheoli asedau
- rheoli cronfeydd
- pensiynau
Mae Caerdydd ar flaen y gad hefyd fel lleoliad busnes TG uwch.
Mae’r ddinas yn gartref i farchnad delathrebu hynod gystadleuol: mae gan BT bresenoldeb sydd wedi’i alluogi’n llawn yn y ddinas, ac mae gan y rhan fwyaf o’r gymuned fusnes ddewis o wasanaethau cebl, tra bod gennym glwstwr cynyddol o ddarparwyr telathrebu annibynnol sy’n cynnig gwasanaethau ffibr a diwifr cyflym.
Pwy sydd yma eisoes
Mae pencadlys cwmni yswiriant Admiral yn yr Ardal Fenter yn ogystal â swyddfa fwyaf Legal & General yn y DU.
Wrth i chi grwydro drwy’r brifddinas fe welwch chi enwau cyfarwydd fel yr AA, Atradius, British Gas, Deloitte, Eversheds, Hugh James, ING Direct, Lloyds TSB, PricewaterhouseCoopers, Principality, Zurich a llawer mwy.
Ansawdd bywyd
Caerdydd yw’r ddinas orau ond yn y DU o ran ansawdd bywyd gweithwyr¹ - un o’r rhesymau pam mae gennym weithlu ffyddlon dros ben a graddedigion sy’n tueddu i aros yma ar ôl cael swydd yma.
Mae’r ddinas yn ymddangos yn gyson mewn arolygon Prydeinig ac Ewropeaidd o’r dinasoedd gorau i fyw ynddynt², ac ymhlith pum lleoliad manwerthu gorau’r DU³ gyda chanolfan siopa ysblennydd Dewi Sant a chyfoeth o arcêds Edwardaidd a Fictoraidd.
Mae’n ‘ddinas o barciau’ hefyd, gyda mwy o le gwyrdd y pen nag unrhyw ddinas graidd arall y DU. Mae canolfannau o safon byd fel Stadiwm Principality a Chanolfan y Mileniwm yn cynnal digwyddiadau o bwys, o chwaraeon rhyngwladol fel cyfres griced y Lludw, rowndiau terfynol Cwpan yr FA a gornestau Cwpan Rygbi’r Byd i wyliau celf rhyngwladol.
Disgrifiwyd Caerdydd fel dinas cŵl gan lyfr teithio Lonely Planet, gyda chanol y ddinas a’r Bae yn cyfuno i gynnig ffordd o fyw drefol soffistigedig gyda mynyddoedd, yr arfordir a chefn gwlad ar garreg y drws.
Ac i goroni’r cyfan, mae costau byw fforddiadwy, ysgolion gwladol a phreifat rhagorol ac amrywiaeth eang o dai o safon yn golygu mai Caerdydd yw un o’r dinasoedd gorau yn Ewrop i fyw ynddi.
¹ Ffynhonnell: Cushman and Wakefield
² e.e. dinas orau’r DU i fyw ynddi (arolwg Money Supermarket 2014); dinas orau’r DU o ran ansawdd bywyd, Archwiliad Trefol y Comisiwn Ewropeaidd 2013
³ Ffynhonnell: Going Shopping 2013: the definitive guide to shopping centres
Ewch i bob Ardal i gael rhagor o wybodaeth am ei amgylchedd busnes penodol: