Yr ardaloedd a safleoedd yn Dyfrffordd y Ddau Gleddau
Ardal ddiwydiannol fach o gwmpas porthladd llongau Abergwaun gydag unedau presennol a photensial ar gyfer datblygiadau newydd.

Ardal ddofn o’r môr lle mae oddeutu chwarter olew, nwy a thrydan y DU yn cael ei gyflenwi. Gall y tanceri olew a nwy mwyaf angori yma a Phorthladd Aberdaugleddau yw’r pumed porthladd prysuraf y DU.

Gyda gwasanaethau siarter ar gael o Faes Awyr cyfagos Hwlffordd, Parc Diwydiannol Llwynhelyg yw stad ddiwydiannol fwyaf y sir hefyd. Mae wrth ochr cefnffordd yr A40 sy’n gwasanaethu porthladd llongau Abergwaun hefyd. Mae’n gartref i sawl cwmni eisoes, gan gynnwys busnesau bwyd, ac mae safleoedd datblygu ar gael hefyd.

Tua thair milltir (4.82 cilometr) o Harbwr Abergwaun, dyma safle mawr a diogel gydag unedau parod i’w defnyddio a chyfleoedd datblygu ac addasu. Gyda mynediad uniongyrchol i gefnffordd yr A40 a’i gysylltiad ei hun â’r prif rwydwaith rheilffordd, mae gan y safle ganiatâd cynllunio ar hyn o bryd ar gyfer ffatri trin diesel a gorsaf bŵer biomas.

Milford Haven is one of the finest deep water ports in the world, and also represents a strategically important maritime link from the UK to the rest of the world. There is an excellent maritime supply chain with tugs, waterside security, pilotage, shipping agents and freight companies. The Port Authority has a variety of office and workshop facilities available to rent as well as excellent waterside sites with slipways, dry docks and other facilities to suit anyone looking to construct marine devices.
Stad ddiwydiannol â gwasanaethau llawn ger terfynell LNG South Hook, sydd eisoes yn gartref i gwmnïau eraill yn y gadwyn gyflenwi. Mae gan y safle ganiatâd cynllunio ar gyfer gwesty a chaniatâd amlinellol ar gyfer datblygiadau diwydiannol a masnachol.
Gerllaw Stad Ddiwydiannol Priory Park, mae’r stad hon yn gartref i nifer o gwmnïau peirianyddol mawr ac eraill sy’n rhan o’r sector ynni.