Cymorth a Cymhellion yn Glannau Dyfrdwy
Cymhellion ariannol
Os ydych chi’n fusnes mawr sefydledig neu’r dechrau busnes newydd, mae cymorth ariannol ar gael o ffynonellau yng Nghymru, y DU ac Ewrop i helpu’ch busnes i symud a thyfu yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.
Mae rhan fawr o’r Ardal yn gymwys ar gyfer Lwfansau Cyfalaf Uwch.
Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig benthyciadau ar gyfraddau gostyngedig i BBaChau cymwys sydd wedi’u lleoli ym mhob Ardal Fenter yng Nghymru, a bydd gennych fynediad i fathau eraill o gymorth y mae Cymru yn ei gynnig mewn meysydd fel datblygu sgiliau, TGCh, ymchwil a datblygu a masnach ryngwladol – gweler www.businesswales.gov.wales/cy am ragor o fanylion.
O ystyried hefyd chostau eiddo, mae Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy yn dechrau gwneud synnwyr gwirioneddol i’ch busnes.
Cymorth gan Lywodraeth sydd o blaid busnesau
Fel Llywodraeth ddatganoledig, nid ydym yn gorfod aros am benderfyniadau o San Steffan. Felly, gallwn weithredu’n gyflym i helpu’ch busnes i sefydlu a ffynnu mewn Ardal Fenter.
Mae gan Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy Fwrdd sy’n cael ei arwain gan y sector preifat sy’n helpu i sicrhau ein bod yn diwallu eich anghenion busnes gwirioneddol ac sy’n cynghori Llywodraeth Cymru a Gweinidogion yn uniongyrchol.
Bydd Tîm Cymorth Busnes Llywodraeth Cymru yn gwrando ar yr hyn sydd ei angen arnoch chi ac yn eich helpu i ddod â phopeth sydd ei angen at ei gilydd er mwyn gallu symud.
Byddwn yn eich cynghori ar sut i fanteisio ar gymhellion ariannol a chymorth a chyllid ar gyfer arloesi, twf, prosiectau cyfalaf, masnach ryngwladol, datblygu sgiliau, TGCh ac e-fusnes. Byddwn yn eich helpu hefyd i ganfod eich safleoedd delfrydol a’ch cynghori ynghylch rhwydweithiau lleol, sector, cadwyn gyflenwi ac academaidd.
Rydym yma fel partner hirdymor. Unwaith y byddwch yma, bydd ein tîm yma drwy’r adeg i wrando ar eich anghenion a theilwra cymorth, o gyngor ar ymchwil a datblygu ac arloesi i e-fusnes, o recriwtio i brosiectau cyfalaf a mwy.
Ewch i bob Ardal i gael rhagor o wybodaeth: