Amgylchedd Busnes Glyn Ebwy
Sgiliau a’r Byd Academaidd
Mae’r gweithlu gweithgynhyrchu yma yn fedrus, yn tyfu ac yn datblygu ac mae gweithwyr lleol ar gael yn barod ac yn lleol i gwmnïau sy’n ymgartrefu yn yr Ardal.
Mae ein prifysgolion lleol yn cyflenwi 2000 o fyfyrwyr peirianneg bob blwyddyn, tra bod ein Cynllun Rhannu Prentisiaeth wrthi’n ehangu’r gronfa ddoniau ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu, peirianneg a bwyd.
Mae ardal e-ddysgu ar y safle ar y gweill hefyd i ddatblygu’r sgiliau y mae cwmnïau preswyl eu hangen ymhellach.
Mae’r Ardal wedi meithrin cysylltiadau ag academyddion yn ein prifysgolion a’n colegau sy’n canolbwyntio ar y byd masnachol ac sydd eisoes yn gweithio gyda busnesau yma. Mae ymchwil gweithgynhyrchu o safon byd a arweinir gan ddiwydiant eisoes ar waith ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, ac ymchwil gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Maent hefyd yn darparu hyfforddiant a datblygiad ar gyfer cyflogwyr lleol hefyd, yn amrywio o raddau i ddysgu seiliedig ar waith.
Sectorau
Mae gweithgynhyrchu yn sector allweddol yma, yn sgil treftadaeth hirsefydlog yn y sector a’r cwmnïau rhyngwladol a chynhenid preswyl sydd yma eisoes.
Pwy sydd yma eisoes
Mae treftadaeth weithgynhyrchu hirsefydlog yn golygu bod yr ardal yn lleoliad o ddewis eisoes, nid yn unig ar gyfer gweithgynhyrchwyr cynhenid, ond arweinwyr rhyngwladol hefyd fel Continental Teves, G-TEM, Monier Redland, Northern Automotive Systems, PCI Pharma Services, Tenneco a Yuasa Battery.
Ansawdd Bywyd
Mae Glynebwy ym Mwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, sy'n adnabyddus am ei gwrthgyferbyniad trawiadol o gymoedd coediog serth a rhostir agored.
Mae eich buddsoddiad yn eich gweithlu yn sicrhau enillion sylweddol yma, gyda lefelau uchel o gyfraddau cadw staff – yn bennaf yn sgil ansawdd bywyd lleol.
Arfordir a chefn gwlad anhygoel – gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – a phrifddinas Cymru i gyd o fewn tafliad carreg.
Gyda chymaint o dir agored gwyllt a chefn gwlad godidog ar garreg eich drws, mae'n anodd peidio â bod yn anturus.
Mae gan yr ardal hanes cyfoethog hefyd o'r Oes Efydd, y cyfnod canoloesol a thoreth o safleoedd treftadaeth ddiwydiannol wrth gwrs, y gellir eu harchwilio ar droed, ar feic, ar gefn ceffyl neu mewn car.
Prin hanner awr i ffwrdd mae Caerdydd, sy’n ymddangos yn rheolaidd yn arolygon* dinasoedd gorau’r DU ac Ewrop i fyw ynddynt ac ymysg 5 lleoliad manwerthu gorau’r DU**.
Caerdydd yw’r ddinas orau ond un yn y DU ar gyfer ansawdd bywyd gweithwyr1 – un o’r rhesymau bod gennym weithlu arbennig o ffyddlon a bod graddedigion yn tueddu i aros ar ôl cael swydd yma.
Mae’r ddinas yn ymddangos yn rheolaidd yn arolygon2 dinasoedd gorau’r DU ac Ewrop i fyw ynddynt, mae ymysg 5 lleoliad manwerthu gorau’r DU3, gyda chanolfan siopa drawiadol Dewi Sant a’r arcedau Edwardaidd a Fictorianaidd.
Mae’n ‘ddinas o barciau’, gyda mwy o lecynnau gwyrdd y pen nag unrhyw ddinas arall yn y DU. Gyda lleoliadau ymhlith goreuon y byd, fel Stadiwm Principality a Chanolfan y Mileniwm, mae Caerdydd yn cynnal digwyddiadau o bwys, o chwaraeon rhyngwladol fel cyfres griced y Lludw, Rowndiau Terfynol Cwpan yr FA a chwpanau rygbi rhyngwladol y byd i wyliau celfyddydau rhyngwladol.
Mae Caerdydd wedi’i disgrifio fel dinas cŵl gan deithlyfr Y Lonely Plant, gyda chanol y ddinas a’r bae yn cyfuno i gynnig profiad trefol soffistigedig.
I goroni’r cyfan, mae hyn law yn llaw â chostau byw fforddiadwy, sy’n golygu y gallwch chi a’ch gweithwyr gael y gorau o fywyd wrth fyw yma.
¹ ffynhonnell: Cushman and Wakefield
² e.e., dinas orau’r DU i fyw ynddi (arolwg Moneysupermarket 2014); dinas orau’r DU o ran ansawdd bywyd, Archwiliad Trefol y Comisiwn Ewropeaidd 2013
³ Ffynhonnell: Going Shopping 2013: the definitive guide to shopping centres
Ewch i bob Ardal i gael rhagor o wybodaeth:
- Ynys Môn
- Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan
- Canol Caerdydd
- Glannau Dyfrdwy
- Glyn Ebwy
- Dyfrffordd y Ddau Gleddau
- Glannau Port Talbot
- Eryri