Yr ardaloedd a safleoedd yn Glyn Ebwy

Ffiniau’r Ardal
- Bryn Serth
- Stad Ddiwydiannol Rassau
- Rhyd-y-Blew
- Y Gweithfeydd
- Parc Busnes Tredegar
- Parc Victoria/yr Ŵyl
- Ystad Ddiwydiannol Tafarnau-bach
- Ystad Ddiwydiannol Waun y Pound
Safleoedd Strategol Eraill
Dyma safle hyblyg, sy’n gallu darparu ar gyfer ystod eang o brosiectau yn ei 10 hectar (24 erw) o dir sy’n eiddo preifat ac sy’n barod i’w ddatblygu. Mae’n addas at ddefnydd B1, B2, B8, A3 a C1 yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Mae Rassau yn un o’r stadau diwydiannol mwyaf adnabyddus yn y De, a gyda safle 7.1 hectar (17 erw) o dir sy’n eiddo preifat sy’n barod i’w ddatblygu, gallai gynnig lle i adeiladau mwy at ddefnydd B1, B2 a B8 yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae yma unedau diwydiannol parod sy’n amrywio o 929m2 (10,000 troedfedd sgwâr) i 9290m2? (100,000 troedfedd sgwâr) ar gael i chi symud iddynt ar unwaith.


Gyda 13 hectar (32.5 erw) o dir sy’n eiddo cyhoeddus ac sy’n barod i’w ddatblygu o fewn 29 hectar (72 erw), dyma’r safle mwyaf yn yr Ardal. Mae Lwfansau Cyfalaf Uwch ar gael ar y safle hwn a allai gynnig lle i adeiladau mwy at ddefnydd B1, B2 a B8 yn y Cynllun Datblygu Lleol.


6.2 hectar (15 erw) o dir sy’n eiddo cyhoeddus ac sy’n barod i’w ddatblygu. Mae ar unwaith at ddefnydd B1. Mae’r Gweithfeydd yn rhan o brosiect adfywio diweddar ar safle hen waith dur.
Mae’r safle’n gyfleuster bywiog bellach sy’n cael ei ddefnyddio at sawl diben, ac yn darparu cyfleusterau dysgu, hamdden a chymunedol yn ogystal â chyfleoedd masnachol. Mae gan safle’r Gweithfeydd ei ganolfan ynni ei hun, sydd eisoes yn gostwng costau ynni ac allyriadau carbon hyd at 20% drwy system wresogi ardal, y bwriedir ei hymestyn.


2.1 hectar (5 erw) o dir sy’n eiddo cyhoeddus ac sy’n barod i’w ddatblygu. Mae ar gael ar unwaith ac yn addas at ddefnydd B1 yn y Cynllun Datblygu Lleol.


Mae'r ystâd eisoes yn gartref i nifer o gwmnïau gweithgynhyrchu mwyaf blaenllaw'r byd ac mae lle yno ar gyfer amrywiaeth eang o fusnesau, boed yn y safleoedd datblygu neu'r unedau sy'n barod i'w defnyddio'n syth. Mae gan yr ystad hefyd 2.16 hectar (5 erw) o dir datblygu sydd ar gael at ddefnydd B1, B2 a B8.
Coleg Gwent is amongst the best performing colleges in Wales and also one of the biggest with over 18,000 students. Its principal site situated within the Zone, the college offers an inspiring range of academic or vocational courses including A Levels and Apprenticeships, university level Higher Education options, professional qualifications or workforce training for employers.