Rhesymau i ymgartrefu yn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan
Fel un o leoliadau awyrofod mwyaf blaenllaw’r DU, mae treftadaeth Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Fenter Bro Tathan yn cynnig lleoliad delfrydol nid yn unig i’r sector hwn a’i gadwyn gyflenwi, ond i fusnesau modurol, gweithgynhyrchu a pheirianneg hefyd.
A chyda maes awyr rhyngwladol ar y safle, mae’r Ardal Fenter yn ddelfrydol i unrhyw fusnes ag elfen ryngwladol sylweddol sydd angen symud nwyddau neu bobl yn gyflym i bedwar ban byd.