Sêl bendith i brosiect ynni'r môr yn Sir Benfro sy'n werth £60 miliwn
Mae prosiect ynni'r môr sy'n werth £60 miliwn a fydd yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd wrth adfywio economi Sir Benfro yn sgil Covid-19 wedi cael sêl bendith. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru bellach wedi cymeradwyo’r achos busnes ar gyfer prosiect Ardal Forol Doc Penfro, ac mae disgwyl iddo gynhyrchu £73.5 miliwn y flwyddyn i economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Mae Ardal Forol Doc Penfro yn cael ei harwain gan y...