Mae Ynni Tonnau yn ffynhonnell lân ac adnewyddadwy o bŵer a allai gyflenwi 10% o drydan y byd erbyn 2050. Ond dyma’r broblem: sut ydych chi’n harneisio pŵer ffyrnig y cefnfor i gynhyrchu ynni fforddiadwy?

Fe’i disgrifiwyd fel yr her beirianyddol anoddaf mewn ynni adnewyddadwy. Mewn geiriau eraill dyma’r union fath o broblem gymhleth sy’n cyffroi peirianwyr megis Dr Gareth Stockman a Dr Graham Foster, cyd-sylfaenwyr Marine Power Systems.

Cyfarfu’r ddau ddeng mlynedd yn ôl tra’n astudio am eu graddau PhD ym Mhrifysgol Abertawe. Meddai Gareth Stockman: “Cyfarfu’r ddau ohonom drwy’r angerdd oedd gennym am y cefnfor, peirianneg ac ynni adnewyddadwy ac roeddem yn fuan yn ymchwilio potensial tonnau I gynhyrchu pŵer glân. Roedd hyn yn ôl yn 2008 pan oedd ynni gwynt a solar yn ennill troedle yn y farchnad ac roedd Prifysgol Abertawe eisoes yn gwneud llawer o waith ar ynni’r llanw ond nid oedd llawer wedi manteisio ar y sector ynni tonnau. Taniwyd ein diddordeb cyffredin mewn canfod atebion i heriau peirianyddol ac yn fuan roeddem yn defnyddio ein hamser hamdden i ddatblygu ein syniadau.” Arweiniodd y prosiect at rai darganfyddiadau arloesol ac roedd Gareth a Graham o’r farn bod iddynt botensial gwirioneddol.

Wedi degawd o ddylunio, profi a datrys problemau lansiwyd y WaveSub prototeip ar raddfa 1:4 yn Noc Penfro fis Hydref diwethaf.

Mae’r WaveSub yn dal ynni gan ddefnyddio symudiad orbitol parhaus tonnau i yrru system tynnu pŵer soffistigedig. Yn debyg i wynt ar y tir, caiff ynni ei drosglwyddo i’r lan drwy gebl o dan y môr. Wedi’i raddio yn bum megawat ar raddfa lawn, bydd un ddyfais WaveSub yn gallu pweru tua 5,000 o gartrefi; yn debyg o ran allbwn pŵer i dyrbin ynni gwynt mawr ar y tir. Yn seiliedig ar hyn, byddai 100 o ddyfeisiau WaveSub yn gallu pweru dinas o faint San Francisco.

Y prif ffocws wrth ddylunio’r WaveSub oedd sicrhau y gallai oresgyn yr hyn a nododd Marine Power Systems yn ei adroddiad Making Wave Power Work (Mehefin 2017) fel pedair prif her cynhyrchu ynni o’r môr; goroesiad, dal ynni’n effeithlon, costau cyfalaf isel a chostau gweithredu isel.

Wrth sôn am y ddyfais, dywed Gareth: “Un o nodweddion diffiniol y WaveSub yw ei natur i addasu i ddyfnder. Mae hyn yn galluogi iddo symud drwy’r dŵr, gan gynnal yr allbwn ynni gorau posibl ar bob adeg. Gall hefyd fynd yn ôl i ddŵr dwfn a chysgodi ei hun yn ystod stormydd gan ddileu’r angen iddo wrthsefyll tonnau anferth ar arwyneb y môr mewn amodau tywydd difrifol.”

Pan ysgrifennwyd hwn roedd prototeip y WaveSub yn mynd drwy rownd gyntaf o brofion yn y môr yn Aberdaugleddau, Sir Benfro. “Mae symud i brofi yn y môr yn gam pwysig i ni,” meddai Gareth. “Gwnaethom gynnydd da drwy’r cyfnod cychwynnol sy’n eithriadol o galonogol. Bydd y cam nesaf yn rhoi cyfle i ni ganolbwyntio mwy ar allu’r ddyfais i gynhyrchu ynni wrth weithredu.”

O’r cyfnod cynllunio i’r profion yn y môr, cafodd Marine Power Systems gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar bob cam, meddai Gareth: “Ar y dechrau’n deg cawsom arian grant egino ar gyfer astudiaeth dechnolegol a dichonoldeb.

Gwnaethom adeiladu prototeip bychan yn 2009 a chwblhau swm sylweddol o fodelu cyfrifiadurol yn 2010, er mwyn deall a oedd ein syniad yn realistig ac y gallai gystadlu â’r LCOE (cost ynni wedi’i lefelu) ar gyfer ffurfiau ynni confensiynol a mathau eraill o ynni adnewyddadwy.”

Roedd y canlyniadau yn galonogol dros ben. Dilynodd grantiau a buddsoddiadau pellach wedyn. Enillodd y cwmni nifer o wobrau. Datblygodd yr eiddo deallusol a chodi patent byd-eang ar gyfer y dechnoleg. Mae wedi manteisio ar arbenigedd academaidd mewn prifysgolion drwy’r DU ac Ewrop – yn fwyaf nodedig ym Mhrifysgol Abertawe, y mae ei Grŵp Ymchwil Ynni Morol wedi cynorthwyo gyda modelu a phrofion prototeip. Mae hefyd wedi elwa gan y rhaglen Astute 2020 – Uwch Dechnolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy – prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n hyrwyddo cydweithredu rhwng academia a diwydiant.

“Bu Llywodraeth Cymru yn rhyfeddol dros y 10 mlynedd diwethaf,” meddai Gareth. “Mae wedi ein helpu ar bob cam.”

Y cam nesaf yw adeiladu prototeip ar raddfa lawn ac mae Marine Power Systems eisoes mewn trafodaethau gyda busnesau ac unigolion ynglŷn â’r cyfle buddsoddi. Gydag ariannu wedi ei sicrhau a dyfais ar raddfa lawn wedi’i phrofi, bydd yn barod i fynd a’r ddyfais i’r farchnad. Yn y pen draw ei weledigaeth yw defnydd o ffermydd o ddyfeisiau WaveSub, a fydd â’r gallu i bweru trefi a dinasoedd o amgylch y byd.

Gwneir cymariaethau gyda gwynt ar y tir, a oedd ar un adeg yn dechnoleg adnewyddadwy a oedd yn dod i’r amlwg ond bellach mae’n ddiwydiant sy’n werth biliynau o ddoleri.

Mae Gareth o’r farn y bydd y defnydd o ynni tonnau yn datblygu a chynyddu’n gyflym. “Mae llawer mwy o ysgogwyr i hyrwyddo cynnydd nawr. Ynghyd ag amcanion sydd wedi’u rhwymo mewn cyfraith i leihau allyriadau carbon a’r angen i fynd i’r afael â sicrwydd ynni, hefyd mae gwell dealltwriaeth gyhoeddus o’r manteision amgylcheddol ac economaidd sydd i’w cael o ynni adnewyddadwy.

Mae hyn, ynghyd â datblygiadau cyflym mewn technoleg, yn golygu pan fyddwn yn ystyried ynni tonnau fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy ar gyfer y dyfodol, mater o pryd, ac nid os, y bydd yn digwydd ydyw.”

Nid yw Marine Power Systems ar ei ben ei hun yn y farchnad wrth gwrs. Mae syniadau eraill ar gael sy’n cystadlu, pob un yn ceisio sicrhau eu rhan o’r farchnad i’r dyfodol. Nid yw hyn yn beth drwg meddai Gareth: “Oes, mae gennym gystadleuaeth, ond mae digon o fusnes ar ein cyfer ni gyd. Os byddwn ddim ond yn cael canran fach o’r adnodd bydd yr enillion economaidd yn sylweddol.

Mae adnodd ynni tonnau yn fyd-eang yn anferth; deng gwaith mwy nag ynni llanw. Mae’r ffaith bod eraill yn gweithio tuag at yr un nod yn dangos bod cred gyffredin bod harneisio ynni o’r tonnau yn bosibl.”

Mae’r llwybr a osodwyd gan y diwydiant ynni gwynt yn un da i’w ddilyn. “Mae gan y sector ynni gwynt nifer sylweddol o weithgynhychwyr, gyda rhai ohonynt yn gwneud refeniw gwerth biliynau o ddoleri’r flwyddyn” meddai Gareth, gan gyfeirio at stori llwyddiant Vestas y cwmni ynni gwynt o Ddenmarc.

Felly ai dyna eich uchelgais ar gyfer WaveSub? Cwmni sy’n werth biliynau gyda phresenoldeb byd-eang?

“Yn sicr” meddai Gareth gydag argyhoeddiad. “Yn y dyfodol pan fydd pobl yn gofyn pa rai yw’r cwmniau mwyaf yng Nghymru, rydym am i Marine Power Systems fod yno gyda nhw. Rydym eisiau darparu miloedd o swyddi sy’n paratoi’r ffordd at ddyfodol carbon-isel. Dyma’r weledigaeth tymor hir rydym yn gweithio tuag ati. Credwn ei bod yn gwbl bosibl.”

Share this page

Print this page