Estynnir gwahoddiad i chi ymuno â ni ym mhedwerydd cyfarfod digwyddiad Rhwydwaith Busnes y Fro ar y cyd â Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Fenter Sain Tathan, Busnes Cymru ac adran Datblygu Economaidd Cyngor Bro Morgannwg. Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Mawrth 25 Mehefin rhwng 8:00am - 10:30am. Ar yr achlysur hwn cynhelir y digwyddiad yn Adeilad Rhif 232 Maes Awyr Sain Tathan, CF62 4WB. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad dilynwch y ddolen hon https://bit.ly/RBYnYF4.
Bydd y cyflwyniadau yn y digwyddiad yn ystyried y canlynol:
- Cam datblygu newydd cyffrous i fusnesau arloesol symud i Faes Awyr Caerdydd ac Ardal Fenter Sain Tathan.
- Manylion am y cymorth sydd ar gael gan SMART Innovation Llywodraeth Cymru (LlC) ac Innovate UK o ran cynghori ar ariannu busnesau arloesol
- Y newyddion diweddaraf am y gwaith adfywio sy’n digwydd ym Mro Morgannwg
- Astudiaeth achos yn seiliedig ar fusnes lleol sydd wedi cael cymorth gan Busnes Cymru ac rhaglenni SMART Innovation LlC
Bydd hefyd ardal arddangosfa arloesi a fydd y cynnwys y sefydliadau canlynol:
- Busnes Cymru
- Cyngor Bro Morgannwg
- Rhaglen Arloesi Llywodraeth Cymru
- Innovate UK
- CEMET (Y Ganolfan Ragoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol)
- Defence and Security Accelerator
- MADE (Manufacture Advanced Design Engineering)
- Cynllun Graddedigion Prifddinas Ranbarth Caerdydd
A fyddech gystal â sicrhau eich bod yn cadw lle yn gynnar ar gyfer y bore addysgiadol hwn gan ein bod yn rhagweld y bydd y lleoedd yn cael llenwi’n gyflym.
Os gwelwch yn dda, peidiwch â rhoi mwy nag 1 cynrychiolydd i bob busnes yn y digwyddiad hwn.