Heddiw (6 Mawrth), bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yn agor y system newydd i wirio pasbortau ym Maes Awyr Caerdydd. 
 
Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu'r e-giatiau newydd hyn sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf. Byddant yn galluogi teithwyr sydd â phasbortau biometrig i osgoi archwiliadau â llaw, ac yn caniatáu mynediad cyflymach i Gymru.
 
Er bod Maes Awyr Caerdydd yn un o'r meysydd awyr cyntaf yn y DU i gyflwyno e-giatiau, cafodd y tair giât wreiddiol eu tynnu gan Lu Ffiniau'r DU yn 2017 wrth i'r dechnoleg wreiddiol gael ei disodli.  

Nid yw Llywodraeth y DU yn caniatáu i Lu Ffiniau'r DU osod e-giatiau i feysydd awyr yn rhad ac am ddim, oni bai eu bod yn ymdrin â thros ddwy filiwn o deithwyr, megis Bryste a Heathrow, felly mae Llu Ffiniau'r DU wedi mynnu taliad cyfalaf sylweddol gan Faes Awyr Caerdydd i osod yr e-giatiau newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i osod pump o'r e-giatiau diweddaraf ym Maes Awyr Caerdydd am gost o £1 miliwn.

Wrth ymweld â Maes Awyr Caerdydd i lansio'r e-giatiau newydd, dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: 

"Mae 60% yn fwy o deithwyr yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd ers i Lywodraeth Cymru ei brynu yn 2013. Mae modd i deithwyr deithio i lawer mwy o leoedd bellach gyda thros 50 o deithiau uniongyrchol yn cael eu cynnig ynghyd â chysylltiadau i dros 900 o leoliadau eraill, gan gynnwys gwasanaeth pellter hir dyddiol i Doha gan Qatar Airways. 

"Mae'r giatiau e-basbort newydd yn rhan bwysig o'n cynlluniau i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb. Byddant yn helpu i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o giwio i ddod i mewn i'r wlad os na fydd y DU yn gallu ymadael yn hwylus â'r UE.

"Bydd mynediad haws i Gymru, ac i'r DU, yn gwella profiadau cwsmeriaid ac yn bodloni gofynion Llu Ffiniau'r DU.

"Gwnaethom gytuno i ariannu'r e-giatiau ar ôl i Lywodraeth y DU wrthod gwneud. Mae'r e-giatiau yn cael eu hariannu mewn meysydd awyr rhanbarthol yn Lloegr a dylid ystyried penderfyniad San Steffan i beidio ag ariannu'r e-giatiau yng Nghaerdydd ochr yn ochr â'i benderfyniad i rwystro ein hymgais i sefydlu rhwydwaith o lwybrau hedfan yn rhan o Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus i ddinasoedd ledled y DU ac i beidio datganoli'r Toll Teithwyr Awyr i Gymru ar sail dadansoddiad economaidd gwallus.

"Rydym am i Lywodraeth y DU ystyried datganoli'r Doll Teithwyr Awyr yn gyfle yn hytrach na rhwystr, fel yn achos yr Alban a Gogledd Iwerddon. Byddai datganoli'r Doll yn llwyddiant i Faes Awyr Caerdydd, i Gymru ac i'r DU. Bydd datganoli yn ein galluogi i ganolbwyntio ar un o nodau ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi i gysylltu Cymru â gweddill y DU a’r byd. Yn wir, bydd fy nghydweithiwr Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig yfory (dydd Iau 7 Mawrth), i roi tystiolaeth ar lafar o blaid ein hachos i ddatganoli'r Doll i Gymru.

"Rydym hefyd yn gobeithio gwrthdroi penderfyniad Llywodraeth y DU i'n hatal rhag creu rhwydwaith o lwybrau hedfan domestig er mwyn creu gwell cyswllt rhwng Caerdydd a rhannau eraill o'r DU.

"Mae Llywodraeth y DU wedi hen ddylanwadu ar y farchnad er budd meysydd awyr mawr yn Lloegr. Byddai datganoli'r Doll yn helpu i greu cystadleuaeth decach". 

Dywedodd Deb Barber, Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd: "Mae Maes Awyr Caerdydd wedi'i drawsnewid dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi gweld cwmnïau megis KLM, TUI a Ryanair yn gwella eu capasiti, wedi croesawu cwmnïau awyrennau newydd ac wedi gweld llwybrau newydd yn cael eu hychwanegu at ein rhwydwaith –  gan gynnwys taith reolaidd i Doha gyda Qatar Airways sy'n sicrhau cysylltiadau hanfodol rhwng Cymru a'r Dwyrain Canol. 

"Mae datblygiadau arwyddocaol fel y rhain, a'r gwelliannau helaeth yr ydym wedi'u gwneud i'r derfynfa a'r seilwaith, yn adlewyrchu ein gweledigaeth hirdymor i ddarparu maes awyr llwyddiannus i Gymru a phorth allweddol i weddill y DU.

"Mae'n hanfodol felly fod y dechnoleg fwyaf modern ac effeithlon yn ei lle ar y ffin i greu mynediad diogel a hwylus i Gymru ar gyfer teithwyr rhyngwladol sydd gystal â meysydd awyr rhanbarthol mawr eraill yn y DU. Mae'r lansiad hwn yn gam ymlaen cadarnhaol iawn yn ein strategaeth hirdymor i sicrhau twf ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth".

Share this page

Print this page