Hwb ariannol gwerth £4.7 miliwn ar gyfer Caergybi
Mae dau brosiect adeilad yng Nghaergybi wedi elwa ar hwb ariannol gwerth £4.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru a thrwy fuddsoddiad gan yr UE. Bydd y cyllid yn cefnogi'r gwaith o adeiladu dwy uned fusnes newydd ym Mhenrhos ac ailadeiladu Neuadd Farchnad hanesyddol Caergybi. Bydd y datblygiad gwerth £3.9m ar gyn safle Heliport ar Ystad Ddiwydiannol Penrhos yn creu dros 2,800m² (30,000 troedfedd sgwâr) o ofod swyddfa, gofod diwydiannol ysgafn a gofod storio ar gyfer busnesau...