Ar frig y don - Sector ynni môr Cymru yn cael sylw mawr yn Ocean Energy Europe
Bydd proffil Cymru fel lleoliad rhyngwladol allweddol ar gyfer datblygu a lleoli dyfeisiau a thechnolegau ynni môr yn cael ei hyrwyddo mewn cynhadledd ac arddangosfa arloesol ym Mrwsel yr wythnos nesaf/hon.Mae Llywodraeth Cymru yn arddangos ac yn arwain taith fasnach i Ocean Energy Europe 2016 (8-9 Tachwedd) gyda naw busnes a sefydliad arloesol a blaengar iawn ym maes ynni’r môr i amlygu'r datblygiadau sydd ar waith yng Nghymru a'r hyn y gall Cymru ei gynnig...