Seilwaith parod i fusnes
Cysylltiadau trafnidiaeth
Mae’r saith Ardal Fenter yng Nghymru yn cynnig cysylltiadau hawdd â rhannau eraill o’r
DU, Iwerddon, tir mawr Ewrop a thu hwnt.
Mae Maes Awyr Caerdydd o fewn ei Ardal Fenter ei hun ac yn gwasanaethu teithwyr a nwyddau ledled y byd, tra gall ei lwybr glanio groesawu awyrennau o bob math. Mae ei 40+ o gyrchfannau uniongyrchol yn cynnwys dinasoedd eraill ledled y DU ac Iwerddon, tir mawr Ewrop a thu hwnt. Bydd gwasanaeth cyson i Amsterdam, Dulyn a Paris yn eich cysylltu’n hawdd a chyfleus â gweddill y byd o garreg eich drws.
Mae meysydd awyr Manceinion, Birmingham, Lerpwl a Bryste o fewn awr o daith o Ardal Fenter, tra gellir cyrraedd maes awyr Heathrow Llundain o fewn dwy awr i rai.
Mae trenau cyflym yn cysylltu Cymru gyda’r rhan fwyaf o ddinasoedd y DU, gyda thaith o ddwyawr yn unig rhwng Caerdydd a Llundain - 100 munud yn 2019 ar ôl trydaneiddio’r rheilffordd - a thair awr rhwng Wrecsam a Llundain.
Mae ein daearyddiaeth yn addas ar gyfer masnachu rhyngwladol, gyda phorthladdoedd pwysig wedi’u lleoli ar hyd ein harfordir. Mae’r rhain yn cynnwys Aberdaugleddau, porthladd ynni mwyaf y DU ac sy’n rhan o Ardal Fenter Dyfrffordd y Daugleddau, a Chaergybi, sy’n borthladd rhyngwladol strategol gyda llwybrau i Iwerddon o ganol Ardal Fenter Ynys Môn.
Band eang, diogelwch data a TGCh
Rydym yn cyflenwi Band Eang y Genhedlaeth Nesaf ledled Cymru, ac yn rhan o hyn mae gwasanaethau cyflym a gwasanaethau busnes ar gael yn helaeth, wedi’u canolbwyntio’n arbennig ar leoliadau o flaenoriaeth strategol megis ein Hardaloedd Menter a Thwf Lleol dynodedig.
Ewch i bob Ardal i gael rhagor o wybodaeth:
- Ynys Môn
- Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan
- Canol Caerdydd
- Glannau Dyfrdwy
- Glyn Ebwy
- Dyfrffordd y Ddau Gleddau
- Glannau Port Talbot
- Eryri