Ardaloedd Menter
Mae ein wyth Ardal Fenter yn ardaloedd dynodedig ledled Cymru lle mae Llywodraeth Cymru wedi creu’r amodau gorau posibl i’ch busnes ffynnu.
Mae pob Ardal yn canolbwyntio ar sectorau penodol, felly bydd o leiaf un yn arbennig o addas i’ch busnes chi. Os ydych chi’n gobeithio dechrau menter newydd neu os yw’ch busnes yn tyfu, byddwch yn gweld eu bod yn cynnig manteision busnes hynod ddeniadol, gan gynnwys:
-
Cymhellion ariannol amrywiol, gan gynnwys rhai o’r lefelau uchaf o gymorth grant yn y DU
- Gweithlu medrus ac academyddion â ffocws masnachol
- Costau eiddo cystadleuol
- Lleoedd pwrpasol
- Penderfyniadau cynllunio llwybr carlam
- Cysylltiadau trafnidiaeth gwych a mynediad rhagorol i farchnadoedd
- Blaenoriaeth i Ardaloedd Menter ar gyfer cysylltiad band eang y genhedlaeth nesaf
- Byrddau Ardal a arweinir gan y sector preifat sy’n cynghori Llywodraeth Cymru a Gweinidogion yn uniongyrchol

8 Lleoliadau Parth yng Nghymru
Fwy o Wybodaeth
Rhagor o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf
Mae prosiect ynni'r môr sy'n werth £60 miliwn a fydd yn helpu i fynd i'r afael â newid…
Mae AMRC Cymru ymhlith nifer o safleoedd allweddol a fydd yn cynnal y gwaith o wneud peiriannau…
Mae canolfan seiber arloesol Cymru wedi cyrraedd ei charreg filltir gynta ac yn symud yn dalog at…
Ymunwch â ni yn y brecwast busnes nesaf, wedi ei drefnu gan Ardal Fenter Glannau Port Talbot mewn…