Trethiant/Yswyriant

Trethiant Dwbl

O’r 1 Ionawr 2021, dod i wybod am y newidiadau i ddidyniadau treth o freindaliadau llog a difidendau.

Newidiadau i ddidynnu treth o log, breindaliadau a difidendau o 1 Ionawr 2021

O 1 Ionawr 2021, gall y ffordd y telir llog, breindaliadau a difidendau rhwng cwmnïau o Gymru a chwmnïau'r UE newid a gellir didynnu treth o rai taliadau.

Os bydd hyn yn digwydd efallai y gallwch hawlio esemptiad llawn neu rannol o'r didyniadau hyn, neu hawlio rhywfaint neu'r cyfan o'r dreth a dalwyd eisoes.

Didynnu treth o log a breindaliadau

Taliadau gan yr UE

O’r 1 Ionawr 2021, gall rhai o aelod-wladwriaethau'r UE ddechrau didynnu treth o daliadau llog a breindaliadau a wnaed i Gymru a arferai gael eu heithrio.

Bydd swm y dreth a ddidynnir yn dibynnu ar y cytundeb trethiant dwbl rhwng y DU/Cymru ac aelod-wladwriaeth yr UE.

Fel cwmni o Gymru, os cewch freindaliadau a llog yng Nghymru gan gwmni cysylltiedig mewn aelod-wladwriaeth o'r UE, cewch fel arfer wneud cais am esemptiad llawn neu rannol, neu hawlio rhywfaint neu'r cyfan o'r dreth yr ydych eisoes wedi'i thalu o dan y cytundeb trethiant dwbl perthnasol.

Edrychwch ar delerau'r cytundeb trethiant dwbl (Saesneg yn Unig) rhwng y DU/Cymru a gwlad yr UE lle mae'r sawl sy'n talu'r llog neu'r breindal yn preswylio. Efallai y bydd angen i chi gyflwyno hawliad newydd neu ddiwygiedig i awdurdodau treth gwlad yr UE.

Didynnu treth o ddifidendau

Taliadau gan yr UE

O’r 1 Ionawr 2021, efallai y bydd rhai o wledydd yr UE yn dechrau didynnu treth o ddifidendau a delir gan is-gwmnïau'r UE i riant-gwmnïau o Gymru a arferai gael eu heithrio.

Bydd swm y dreth a ddidynnir o'r taliadau difidend hyn yn dibynnu ar y cytundeb trethiant dwbl rhwng y DU ac aelod-wladwriaeth yr UE

Edrychwch ar delerau'r cytundeb trethiant dwbl (Saesneg yn Unig) rhwng y DU/Cymru a gwlad yr UE lle mae'r sawl sy'n talu'r difidendau yn preswylio. Efallai y bydd angen i chi gyflwyno hawliad newydd neu ddiwygiedig i awdurdodau treth aelod wladwriaeth yr UE.

TAW mewnforio

O’r 1 Ionawr 2021, os ydych yn fusnes sydd wedi'i gofrestru ar gyfer TAW yn y DU, darganfyddwch pryd y gallwch, neu y mae angen i chi, roi cyfrif am fewnforio TAW ar eich Ffurflen TAW (a elwir hefyd yn gyfrifyddu TAW gohiriedig).

Mae rhoi cyfrif am fewnforio TAW ar eich ffurflen TAW yn golygu y byddwch yn datgan ac yn adennill TAW mewnforio ar yr un Ffurflen TAW, yn hytrach na gorfod ei dalu ymlaen llaw a'i adfer yn ddiweddarach.

Bydd y rheolau arferol ynghylch pa TAW y gellir ei hadfer fel treth mewnbwn (Saesneg yn Unig) yn berthnasol.

Pwy all roi cyfrif am TAW mewnforio ar eu ffurflen TAW

O’r 1 Ionawr 2021, os yw eich busnes wedi'i gofrestru ar gyfer TAW yn y DU, byddwch yn gallu rhoi cyfrif am fewnforio TAW ar eich Ffurflen TAW am nwyddau rydych yn eu mewnforio i:

  • Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban) o unrhyw le y tu allan i'r DU
  • Gogledd Iwerddon o'r tu allan i'r DU a'r UE

Ni fydd unrhyw newidiadau i'r ffordd y caiff TAW ei drin na sut yr ydych yn rhoi cyfrif amdano ar gyfer symud nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon a'r UE.

Nid oes angen i chi gael eich awdurdodi i gyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW.

Personau trethadwy nad ydynt wedi'u sefydlu

Os ydych yn berson trethadwy nad yw wedi'i sefydlu (Saesneg yn Unig), bydd eich cyfryngwr enwebedig yn gallu rhoi cyfrif am y TAW mewnforio ar eu ffurflen  TAW. Pan fydd y nwyddau'n trosglwyddo i chi o'r cyfryngwr, byddant yn anfon anfoneb gan gynnwys y TAW perthnasol.

Pryd y gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW

Cewch wneud hyn os:

  • yw'r nwyddau rydych chi'n eu mewnforio i'w defnyddio yn eich busnes
  • rydych yn cynnwys eich rhif EORI (Saesneg yn Unig)
  • sy'n dechrau gyda 'GB' ar eich datganiad tollau
  • eich bod yn cynnwys eich rhif cofrestru TAW ar eich datganiad tollau, os oes ei angen

Os byddwch yn datgan nwyddau i ddechrau yn weithdrefn arbennig y tollau (Saesneg yn Unig),

gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW pan fyddwch yn cyflwyno'r datganiad sy'n rhyddhau'r nwyddau hynny i'w dosbarthu o'r gweithdrefnau arbennig canlynol:

  • warysau'r tollau
  • prosesu mewnol
  • derbyn dros dro
  • defnydd terfynol
  • prosesu allanol
  • atal tollau

Gallwch roi cyfrif am fewnforio TAW ar eich Ffurflen TAW pan fyddwch yn rhyddhau  nwyddau tollau cartref i'w defnyddio yn y DU (Saesneg yn Unig) - a elwir hefyd yn 'cael eu rhyddhau i'w defnyddio gartref'. Mae hyn yn cynnwys pan gaiff nwyddau eu rhyddhau o warws tollau cartref ar ôl bod mewn cyfnod atal tollau dros dro ers y pwynt mewnforio.

Pan fydd yn rhaid i chi roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW

Os ydych yn mewnforio nwyddau nad ydynt yn cael eu rheoli i Gymru o'r UE rhwng 1 Ionawr a 30 Mehefin 2021, rhaid i chi roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich ffurflen TAW os ydych naill ai yn:

Sut i lenwi eich datganiad tollau cyn rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW

Os ydych yn defnyddio meddalwedd neu'r system Trin Tollau Tramor ar Gludo Nwyddau Mewnforio ac Allforio (CHIEF) i ddatgan eich dyletswyddau tollau, bydd angen i chi:

  • nodi naill ai'r rhif EORI (sy'n cynnwys eich rhif cofrestru TAW) ym mlwch 8 (Pennawd Consignee) neu, os yw'n berthnasol, y VRN ym mlwch 44h (Derbynnydd Cofrestredig) o'r datganiad
  • rhowch 'G' fel y dull talu ym mlwch 47e

Os ydych yn defnyddio'r Gwasanaeth Datganiad Tollau i ddatgan eich dyletswyddau tollau mae angen i chi gofnodi eich rhif cofrestru TAW rhif ar lefel pennawd yn elfen ddata 3/ 40

Bydd TAW yn cael ei gofnodi yn erbyn eich EORI a bydd ar lefel datganiad yn unig.

Os ydych yn gweithredu ar ran rhywun arall

Os ydych wedi cael eich awdurdodi i weithredu ar ran eich cleient, rhaid i chi ddefnyddio ei rif EORI neu rif cofrestru TAW ar y datganiad tollau.

Os ydych yn mewnforio nwyddau mewn llwythi nad ydynt yn fwy na £135 mewn gwerth

Darperir canllawiau pellach ar drin nwyddau mewn llwythi nad ydynt yn fwy na £135 mewn gwerth mewn diweddariad diweddarach.

Ar ôl i'r nwyddau gael eu mewnforio

Bydd angen i chi roi cyfrif am fewnforio TAW pan fyddwch yn llenwi eich Ffurflen TAW (Saesneg yn Unig)

Adnoddau a gwybodaeth

Mae Cymru a'r DU wedi gadael yr UE, a daw'r cyfnod pontio ar ôl Brexit i ben eleni. I gael gwybodaeth gyfredol, darllenwch: Talu TAW ar fewnforion, caffael a phrynu o dramor (Saesneg yn Unig)

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi rhoi arweiniad ar reoli eich TAW mewnforio ar barseli. (Saesneg yn Unig)

Cofrestru TAW yn yr UE

Cyd–destun

Os ydych yn masnachu mewn nwyddau ac yn penderfynu dal stoc mewn gwlad yn yr UE i'w gyflenwi i'ch cwsmeriaid yn yr UE, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW yn y wlad honno. Yn dibynnu ar y wlad lle mae eich stoc, efallai y bydd hefyd yn ofynnol i chi benodi Cynrychiolydd Cyllidol sy'n atebol ar y cyd am unrhyw TAW allai fod yn ddyledus gennych.

Dylai eich busnes ystyried

Ydych chi'n gwybod pa wlad fyddai fwyaf addas i gefnogi eich cadwyn gyflenwi i gwsmeriaid/cyflenwyr yr UE?

A oes gennych fynediad at warantau banc sy'n ofynnol gan Gynrychiolwyr Cyllidol?

A yw eich model busnes yn caniatáu digon o elw I dalu costau cynyddol a ddaw yn sgil y prosesau newydd hyn?

Adnoddau a gwybodaeth

Canllawiau manwl ar drethiant busnes a TAW: TAW: gwybodaeth fanwl (Saesneg yn Unig)

Yswiriant

A ydych yn fusnes sy'n pentyrru? Ydych chi wedi holi eich yswiriwr neu'ch cynghorydd yswiriant ynghylch a ydych yn dal i fod wedi'ch yswirio'n llawn?

Fel arfer, bydd terfyn ar yswiriant ar gyfer stoc ar y safle o dan bolisïau cynnwys masnachol. Er y gellir cael yswiriant ar gyfer amrywiadau dros dro, dylai cwmnïau sicrhau y gellir cynnwys unrhyw stoc ychwanegol drwy gynyddu'r symiau sydd wedi'u hyswirio. Os ydych yn cludo stoc ychwanegol, dylech hefyd wirio eich polisi moduron masnachol neu bolisi cludo nwyddau.

Os ydych yn storio stoc ychwanegol neu ddeunyddiau crai oddi ar y safle dros dro mewn warws, edrychwch ar yr yswiriant o dan eich polisi masnachol, a graddau unrhyw yswiriant a ddarperir gan gwmni’r warws.

Edrychwch ar delerau ac amodau'r polisi i weld a oes unrhyw gyfyngiadau ar faint o stoc neu ddeunyddiau crai y gallwch eu cadw, a'r ffordd y cânt eu storio oherwydd, er enghraifft, gallai fod mwy o berygl o dân. Os nad ydych yn siŵr, siaradwch â'ch yswiriwr neu'ch cynghorydd yswiriant.