Mae hon yn Alwad gystadleuol. Rydym yn chwilio am brosiectau, sy'n dangos budd economaidd gwirioneddol i Gymru. Anogir prosiectau cydweithredol, a allai arwain at greu cadwyni cyflenwi newydd. Dylai eich prosiect fod yn gam tuag at eich uchelgeisiau o ran cerbydau carbon isel yn y dyfodol.
Mae rhagor o fanylion am gymhwysedd ac amodau wedi'u cynnwys yn y Nodiadau Canllaw gwneud Cais, fodd bynnag, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn trafod unrhyw gais posibl gyda'ch Arbenigwr Arloesi/Rheolwr Datblygu Ymchwil Llywodraeth Cymru Fel arall; gallwch e-bostio unrhyw gwestiynau i FordTransitionFund.gov.uk
Pwy all wneud cais?
- Gall cwmnïau o unrhyw faint wneud cais ac nid oes rhaid i bartneriaid fod wedi'u lleoli yng Nghymru
- Gall sefydliadau ymchwil wneud cais i redeg prosiectau cydweithredol gyda phartneriaid yn y diwydiant (bydd rhywfaint o gyfyngiadau)
- Gallwch gyflwyno mwy nag un cais.
Ynglŷn â'ch Prosiect
- Byddwn yn cefnogi prosiectau technegol arloesol sy'n cyd-fynd â Mapiau Ffordd canlynol y Cyngor Modurol ar gyfer Cerbydau Carbon Isel
- Storio Ynni Trydanol;
- Peiriannau Trydan;
- Electroneg Pŵer;
- Celloedd Tanwydd;
- Strwythur Cerbydau Ysgafn & Powertrain
Bydd y cyllid yn cefnogi:
- Dichonoldeb Technegol a Masnachol i ymchwilio i hyfywedd trawsnewid syniadau arloesol yn gynhyrchion, prosesau neu dechnolegau newydd.
- Ymchwil Ddiwydiannol i ymgymryd ag ymchwil ymarferol a fydd yn caniatáu datblygu model gweithio sylfaenol o gynnyrch neu broses newydd.
- Datblygu Arbrofol i weithredu canlyniadau ymchwil diwydiannol gan gynnwys datblygu prototeip cyn-gynhyrchu o gynnyrch neu broses newydd.
Ynglŷn â'r Grant
- Rydym yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o geisiadau hyd at £300,000, fodd bynnag, byddwn yn ystyried prosiectau eithriadol hyd at uchafswm o £750,000
- Bydd cyfraddau ymyrraeth â grantiau yn dibynnu ar faint y cwmni a'r cymorth y gwnaed cais amdano ac yn cael ei lywodraethu gan fesurau rheoli cymhorthdal cyfredol y DU (Cymorth Gwladwriaethol)