ArloeseddSMART

Mae ArloeseddSMART yn cynnig  cyngor a chymorth arbenigol ar gyfer busnesau Cymreig sy'n awyddus i ymwneud â gwaith Arloesi ac Ymchwil a Datblygu.

Prif Bwyntiau:-

  • Mynediad at gyngor a diagnosteg diduedd ar arloesedd drwy rwydwaith Cymru gyfan o Arbenigwyr Arloesi.

  • Cyngor a chymorth ar Eiddo Deallusol a mynediad at 'Archwiliadau Eiddo Deallusol' Swyddfa Eiddo Deallusol y DU a gyllidir yn rhannol.

  • Ymgynghoriaeth arbenigol ym maes Gweithgynhyrchu a Dylunio o fframwaith cymeradwy o gynghorwyr y sector preifat.

  • Cymorth ar gyfer hwyluso Cydweithrediadau Technegol, gan gynnwys gweithgareddau Trosglwyddo Technoleg rhwng busnesau a sefydliadau ymchwil.

  • Cymorth o ran masnacheiddio, trwyddedu a chyfleoedd Arloesi Agored

  • Cymorth ar gyfer manteisio ar ffynonellau cyllido gwaith Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a chyngor ar ddatblygu ceisiadau cyllid ee SMARTCymru, Innovate UK ac EU Horizon2020

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu anfonwch e-bost at businesssupport@gov.wales

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.