SMART Expertise
Dwyrain Cymru a Gorllewin Cymru a’r Cymoedd
Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer y rhanbarthau hyn bellach wedi dod i ben. Os ydych wedi'ch lleoli yn rhanbarth Dwyrain Cymru neu ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, cysylltwch â'ch Rheolwr Datblygu Rhanbarthol a fydd yn barod i'ch cynorthwyo wrth i ni chwilio am arian ychwanegol i gefnogi rhagor o brosiectau cydweithredol o ansawdd ym maes ymchwil a datblygu.
Fe'ch cynghorir i drafod unrhyw brosiectau cydweithredol ymchwil a datblygu posibl gyda'ch Rheolwr Datblygu Ymchwil (RDM) lleol, gweler y manylion cyswllt isod.
I gysylltu â'ch Rheolwr Datblygu Ymchwil lleol:
Ar gyfer ceisiadau o Ganolbarth a Gogledd Cymru – cysylltwch â Sam Williams, e-bost: Samantha.Williams@gov.cymru
Ar gyfer ceisiadau o Dde-ddwyrain a De-orllewin Cymru – cysylltwch â Richard Morgan, e-bost: Richard.Morgan4@gov.cymru
Sylwer, rhaid cwblhau'r holl brosiectau Arbenigedd CAMPUS a gefnogir ar hyn o bryd erbyn 31 Rhagfyr 2022.
Cyflwyniad i SMART Expertise
Mae SMARTExpertise yn cynnig cymorth ariannol i brosiectau cydweithredu arloesol sy’n galw am arbenigedd eang i brofi syniad neu ddatrys problem o fewn diwydiant.
Mae’r alwad hon i gystadlu ym meysydd allweddol SMARTExpertise yn ceisio cefnogi diwydiant i weithio gyda sefydliadau ymchwil o Gymru i fynd i’r afael â her/iau technegol strategol o fewn y diwydiant gan ganolbwyntio’n glir ar fasnacheiddio, datblygu a thwf.
Gall y partneriaid o fewn y diwydiant fod o unrhyw faint o unrhyw leoliad daearyddol cyn belled ag y bo effaith economaidd bositif ar Gymru.
Bydd y cyllid yn cefnogi 100% o gostau prosiect cymwys y sefydliadau, fydd yn cyfateb ag uchafswm o 50% o gyfanswm costau cymwys prosiectau. Bydd y partneriaid diwydiannol yn darparu’r gweddill o gyfanswm costau cymwys y prosiect. Bydd y cyllid yn cael ei ddyfarnu i’r sefydliad ymchwil.
Mae’n rhaid i weithgarwch y prosiect gael ei gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2022
Mae’n rhaid i’r prosiect ymgymeryd â gwaith ymchwil wedi’i gynllunio neu ymchwil feirniadol sydd wedi’i anelu at gaffael gwybodaeth a sgiliau newydd ar gyfer datblygu cynnyrch, prosesau neu wasanaethau newydd neu wella yn sylweddol gynnyrch, prosesau neu wasanaethau sy’n bodoli eisoes.
Nid yw gwaith ymchwil o dan gontract a darparu gwasanaethau ymchwil yn gymwys.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Ymchwil.




