Cymorth Arloesi Hyblyg

Mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu gwlad gryfach, decach a gwyrddach, gydag economi sy’n seiliedig ar waith teg, cynaliadwyedd a sectorau’r dyfodol.

Mae’n cefnogi Ymchwil, Datblygu ac Arloesi sy’n cael eu hysgogi gan alw, a chydweithredu effeithiol sy’n sicrhau buddion gwirioneddol ar gyfer pobl a’r amgylchedd.

Rydyn ni’n helpu busnesau, y trydydd sector, cyrff sector cyhoeddus a sefydliadau ymchwil i arloesi a chreu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, gan gynyddu masnacheiddio, gwella sgiliau a sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn gwneud pob ymdrech i sicrhau dyfodol di-garbon.    

Mae Cymorth Arloesi Hyblyg SMART yn eich helpu i wella bywydau pobl drwy ysgogi ymchwil ac arloesi sy’n arwain y maes. Ei nod sengl yw helpu sefydliadau yng Nghymru i sicrhau “Rhagoriaeth Arloesi” drwy ddatblygu Cynlluniau Arloesi ar y cyd â thîm o arbenigwyr sy’n darparu arbenigedd, ymgynghori a chyllid.    

stairway graphic

Mae’n ffordd newydd o ariannu ymchwil, datblygu ac arloesi. Nid yw Cymorth Arloesi Hyblyg SMART wedi’i gyfyngu i fusnesau a sefydliadau ymchwil. Mae ar gael i unrhyw sefydliad sydd am gymryd rhan mewn ymchwil, datblygu ac arloesi, gan gynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol a byrddau iechyd.   

Ar gyfer sefydliad newydd, gall hyn olygu cael mynediad at dechnoleg i wireddu syniad newydd; ar gyfer sefydliad sy’n cael ei ddatblygu, gallai helpu gyda phrosiect rydych yn gwybod bod ganddo botensial; ac ar gyfer sefydliad sefydledig gall ddarparu gwybodaeth arbenigol i fod ar y blaen yn rhyngwladol drwy roi mynediad i farchnadoedd newydd.