Gweithio gyda Phrifysgolion a Cholegau

Gallwn eich helpu i ddatblygu’ch cynnyrch neu’ch gwasanaeth newydd trwy:

  • gael hyd i bartneriaid ymchwil a datblygu academaidd
  • defnyddio gwasanaethau arbenigol fel labordai a chyfleusterau profi
  • cael hyd i fyfyrwyr, graddedigion ac ôl-raddedigion i weithio ar eich prosiect trwy gynlluniau fel Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth

Mae gan brifysgolion a cholegau Cymru swmp anferth o wybodaeth a chyfleusterau arbenigol i’ch helpu i ddatblygu’ch syniadau.

Mae Sêr Cymru yn rhaglen cyllido gwerth miliynau i ddod â thalent gwyddonol i swyddi ymchwil yng Nghymru.