Covid-19 – Cymorth a Chyllid

Mae lledaeniad y coronafeirws wedi creu nifer o heriau ac wedi effeithio ar ein gallu i gyflenwi cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau sy’n bodloni’r galw cynyddol am ofal ein GIG a’n gwasanaethau gofal.

Mae Llywodraeth Cymru gefnogi busnesau a sefydliadau ymchwil blaengar yng Nghymru er mwyn cyflenwi atebion a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn.

COVID-19 Datblygu Ymchwil ac Arloesi: Prosiectau Ymchwil a Datblygu ar gyfer datblygu cynhyrchion neu brosesau newydd neu well. 


Dychwelyd i’r gwaith yn ddiogel. Canllawiau ar gyfer Gweithleoedd yng Nghymru.

Cymorth ymarferol. Cyngor annibynnol.
Mae cymorth ar gael i helpu busnesu gweithgynhyrchu ym mhob sector wrth iddynt adfer. Bydd Arloesedd SMART yn rhoi cymorth i gynllunio a gweithredu newidiadau, er mwyn rhoi mesurau rhesymol ar waith a fydd yn sicrhau arferion gweithio diogel yn y gweithle sy’n cyd-fynd â deddfwriaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru. 

Bydd arbenigwyr yn gweithio gyda chi i nodi cyfleoedd i sicrhau amgylchedd gweithio diogel, gan ddefnyddio dulliau arloesol i gynnal cynhyrchiant, ac o bosibl ei wella. 

Caiff busnesau yng Nghymru dderbyn cymorth cynhyrchiant gan SMART yn rhad ac am ddim. Darperir y cymorth gan Lywodraeth Cymru drwy gyllid gan yr UE.

Bydd arbenigwyr yn gweithio gyda chi, yn rhad ac am ddim, i gynllunio ac i’ch helpu i weithredu’r newidiadau sydd eu hangen i wella eich cynhyrchiant a’ch prosesau dylunio. 

I siarad â chynghorydd anfonwch e-bost at:
SMARTInnovation@llyw.cymru