Sêr Cymru
Sêr Cymru – Mynd i’r afael â Chynigion ar gyfer Ymchwil i COVID-19
Mae Swyddfa Llywodraeth Cymru dros Wyddoniaeth yn gwahodd prifysgolion yng Nghymru i gyflwyno ceisiadau ar gyfer cyllid am gynigion newydd ar gyfer ymchwil allai gyfrannu at neu hybu datblygiad gwaith ymchwil sy’n cael effaith ar COVID-19.
Gellir cael rhagor o wybodaeth yma
Sêr Cymru Dyfarniadau Seilwaith ar gyfer Gwella Cystadleurwydd
Mae Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru yn gwahodd prifysgolion yng Nghymru i wneud cais am gyllid cyfalaf i brynu offer ar gyfer ymchwil ym meysydd academaidd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM). Mae'r alwad ariannu hon bellach ar gau.
Dyfarniadau Seilwaith ar gyfer Gwella Cystadleurwydd
Sêr Cymru Cymrodoriaethau Diwydiannol ac Gwobrau Cyflymu
Mae rhaglen newydd Sêr Cymru yn gyfres o gynlluniau sy'n cael eu hariannu'n rhannol gan y Comisiwn Ewropeaidd drwy gynllun Horizon 2020 Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA) COFUND neu Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) o dan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).
Bydd cyfleoedd ariannu Sêr Cymru newydd yn canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau academaidd a diwydiannol, yn y DU a thu hwnt, i sicrhau rhagoriaeth mewn gwaith ymchwil. Hefyd, bydd y Grantiau Meithrin Gallu yn sicrhau bod ymchwil ac arloesi yng Nghymru'n parhau'n gryf a chydnerth er mwyn ein harfogi i wynebu heriau'r dyfodol.
Mae 5 grant newydd:
- Cymrodoriaethau Diwydiannol Cenedlaethau'r Dyfodol - i gryfhau'r berthynas rhwng ymchwilwyr academaidd yng Nghymru a phartneriaid diwydiannol yn y DU a thu hwnt.
- Cymrodoriaethau Diwydiannol Sefydliad Gwyddoniaeth Iwerddon - i gryfhau ein partneriaethau academaidd a masnachol ag Iwerddon.
- Grantiau Cyflymu Partneriaethau Strategol - i gryfhau'r partneriaethau ymchwil strategol sydd eisoes yn bod.
- Grantiau Cyflymu Seilwaith - i helpu i brynu offer fydd ar gael ar gyfer mwy nag un defnyddiwr.
- Gwobrau Cyflymu ar gyfer Meithrin Gallu - i feithrin a chryfhau galluoedd mewn meysydd arbenigol smart.
Gallwch gyflwyno cais yn awr am gyllid o dan bob un o’r 5 cynllun. Bydd y cyfnod ymgeisio am gyllid yn dod i ben ar 10 Ionawr 2020.
Hefyd, dyma’r gwahoddiad olaf i wneud cais am Gymrodoriaethau COFUND. Bydd y cyfnod ymgeisio ar eu cyfer nhw yn dod i ben ar 10 Ionawr 2020 hefyd. Mae’r Cymrodoriaethau COFUND eraill sydd ar gael yn rhai byrdymor, am gyfnodau o lai na 12 mis, a byddant yn dod i ben ym mis Chwefror 2021.
Mae'r rhaglen yn rhan o waith Swyddfa Llywodraeth Cymru dros Wyddoniaeth i gynyddu’r gallu ymchwil mewn pynciau sy'n gysylltiedig â STEMM (Gwyddoniaeth, Technoleg Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth). Mae'r rhaglen hefyd yn agored i ymchwilwyr sy'n gweithio mewn meysydd perthnasol o’r gwyddorau cymdeithasol cymhwysol.
Nod y rhaglen yw denu ymgeiswyr o'r safon uchaf i weithio mewn grwpiau ymchwil rhagorol ym mhrifysgolion Cymru gyda busnesau masnachol a mudiadau'r trydydd sector.
Dim ond rhan o’i gyllid y mae rhaglen Sêr Cymru yn ei gael oddi wrth y Comisiwn Ewropeaidd (naill ai drwy WEFO neu H2020), Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, felly mae'n hollbwysig bod ymgeiswyr yn cysylltu â'r sefydliad y maent am weithio ynddo (a fydd yn darparu gweddill yr arian cyfatebol) cyn gynted â phosibl i drafod eu prosiect arfaethedig cyn cyflwyno cais.
Cynllun |
Dwyrain Cymru (Arian cyfatebol gan y Sefydliad Addysg Uwch – tua 5%) |
Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (Arian cyfatebol gan y Sefydliad Addysg Uwch – tua 5%) |
Cymrodoriaeth Ddiwydiannol Cenedlaethau'r Dyfodol |
2 (tua £150k) |
4 (tua £150k) |
Cymrodoriaeth Ddiwydiannol Sefydliad Gwyddoniaeth Iwerddon |
2 (tua £50k) |
4 (tua £50k) |
Grantiau Cyflymu Partneriaethau Strategol |
2 (tua £68k ar gyfer pob pecyn) |
3 (tua £68k ar gyfer pob pecyn) |
Grantiau Cyflymu Seilwaith |
Ledled Cymru (i'w rhannu yn ôl nifer y ceisiadau a chyfanswm y grant sydd ar gael – tua £2.5 miliwn) |
|
Grantiau Cyflymu Cynyddu Capasiti |
2 (tua £0.5 miliwn ar gyfer pob pecyn) |
3 (tua £0.5 miliwn ar gyfer pob pecyn)
|
MSCA COFUND (H2020) |
Cymru gyfan |


Mae'r cyfleoedd ariannu blaenorol ar gyfer Sêr y Dyfodol, Ailgipio Doniau, Cymrodoriaethau Sêr Cymru a Chymrodoriaeth Meddygaeth Fanwl Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bellach wedi dod i ben.