Cymrodoriaethau Adennill Talent

Bydd y cymrodoriaethau hyn yn rhoi cymorth i ymchwilwyr, gyda 3-5 mlynedd o brofiad ôl-ddoethuriaeth, sy'n dychwelyd i'r gwaith yn dilyn seibiant gyrfa. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm rheoli drwy FLWCH NEGESEUON E-BOST SÊR CYMRU II

Meini Prawf Cymhwysedd

Dylai ymgeiswyr ar gyfer cymrodoriaeth adennill talent fodloni'r meini prawf cymhwysedd isod:

  • dylai ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf dda mewn pwnc gwyddonol, technoleg, mathemateg peirianneg neu feddygaeth (STEMM).

  • Mae hefyd yn ddymunol i'r ymgeiswyr feddu ar 3-5 mlynedd o brofiad ôl-ddoethuriaeth a chyhoeddiadau.

  • bydd yr ymgeiswyr wedi cael egwyl gyrfa, neu fod wedi cymryd amser allan o waith ymchwil academaidd, am oddeutu 2 flynedd  [Gallai ymgeiswyr gyda mwy neu lai o amser allan o waith ymchwil nag a nodwyd yn y meini prawf cymhwysedd hyn gael eu hystyried fesul achos.]

  • Mae'r gymrodoriaeth hon ar agor hefyd i ymchwilwyr sy'n bwriadu dychwelyd i ymchwil academaidd wedi rhywfaint o amser y tu allan i sefydliad academaidd, megis sefydliad ymchwil masnachol neu wedi dilyn gyrfa arall megis dysgu neu weinyddu.

  • gall yr ymgeiswyr fod o unrhyw genedligrwdd

  • mae'n rhaid i'r ymgeiswyr gyflwyno cais wedi'i gwblhau.

  • mae'n rhaid i'r ymgeiswyr gydymffurfio â'r egwyddorion moesol sylfaenol sydd wedi'u nodi yn yr adran nesaf.

  • mae'n rhaid i ymgeiswyr dderbyn cefnogaeth lawn y sefydliad sy'n eu cynnal

Bydd ymgeiswyr sydd ddim yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd neu nad ydynt yn cadw at y canllawiau a roddir yma yn cael eu gwrthod gan y tîm rheoli.

Y Broses Ymgeisio

Bydd angen i ymgeiswyr gynnig prosiect addas mewn sefydliad sy'n eu cynnal yng Nghymru. Dylid disgrifio'r prosiectau mewn dim mwy na 12 tudalen a chwblhau'r ffurflen gais briodol. 

Bydd y prosiect ymchwil yn cael ei greu gan yr ymgeisydd ond mae'n rhaid iddynt drafod hyn gyda'u harolygydd posibl cyn ei gyflwyno.

Bydd  craffu moesol ar bob prosiect a bydd angen i ymgeiswyr ddarparu adran foesol wedi'i chwblhau o fewn eu cais. 

Dylai'r ymgeisydd hefyd gyflwyno copi o'u CV diweddaraf, dim mwy na 3 tudalen o hyd. Dylai hwn gynnwys gwybodaeth am eu haddysg, eu gwaith blaenorol a phrofiad perthnasol arall, gwybodaeth am unrhyw seibiant yn eu gyrfa ar gyfer mamolaeth neu gyfrifoldebau gofalu ac ati; a rhestr o'u cyhoeddiadau a grantiau a ddyfarnwyd (os oes rhai).

Dylai'r ymgeiswyr hefyd anfon enwau dau ganolwr sy'n gyfarwydd â'u gwaith a'r maes ymchwil arfaethedig, mewn e-bost.

Dylai'r sefydliadau sy'n eu cynnal roi dadansoddiad o gostau gan ddefnyddio'r tablau o fewn eu ffurflenni cais.

Ffurflenni Cais

Dylid cwblhau eich Ffurflen Gais a'i hanfon mewn e-bost at FLWCH NEGESEUON E-BOST SÊR CYMRU II. Dylid cynnwys enwau 2 ganolwr enwebedig yn yr e-bost.

Bydd y ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 12 tudalen yn ogystal â CV 3 tudalen, maint ffont 11, Times New Roman neu Arial gyda dim llai na 2cm o ymyl (chwith, dde a gwaelod) ac 1cm o frig y dudalen. Dylid rhestru'r canolwyr ar waelod y ddogfen a bydd yn cyfrif tuag at gyfanswm y tudalennau.

Yna byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o'ch ffurflen o fewn 5 diwrnod gwaith. Os nad ydych yn derbyn hwn cysylltwch â'ch tîm rheoli ar yr un cyfeiriad e-bost.

Bydd y broses lawn ar gyfer adolygu a dewis y ffurflen gais yn cael ei rhoi ar  dudalen yr Adolygiad o geisiadau.