Os na fydd Simon Ripton ar gael cysylltwch ag Alan Davies.
Addysg/Academaidd
- Prifysgol Loughborough
BEng (Anrhydedd) – Peirianneg Gemegol
Cyflogaeth
- 1996-2005: Baxter Healthcare Ltd, Norfolk
- - 1996-1999: Rheolwr Cynhyrchu, Adran Fenwal – yn gyfrifol am gynhyrchiant systemau casglu a phrosesu gwaed Fenwal yn y Deyrnas Unedig.
- 1999-2000: Peiriannydd Proses Reoli – yn gyfrifol am ddylunio, datblygu a dilysu cyfarpar llenwi hylif di-haint cwbl awtomataidd a chyfleusterau ystafelloedd glân.
- 2000-2002: Uwch-arolygydd Gweithgynhyrchu – yn gyfrifol am ddatblygu’r arferion gweithgynhyrchu gorau ar gyfer gweithrediadau llenwi awtomataidd ledled Ewrop.
- 2002-2004: Uwch Beiriannydd Datblygu Prosesau – yn gyfrifol am nodi, cyfiawnhau a chyflawni prosiectau peirianneg yn y Deyrnas Unedig.
- 2004: Rheolwr Cyfleusterau – yn gyfrifol am yr holl wasanaethau a’r cyfarpar ar 3 safle yn y Deyrnas Unedig.
- 2004-2005: Uwch Reolwr Prosiectau – yn gyfrifol am brosiectau peirianneg gwerth uchel, yn y Deyrnas Unedig yn bennaf, ond dramor hefyd.
- 2006-2009: Ortho-Clinical Diagnostics, Caerdydd
Rheolwr Prosiectau Cyfalaf – yn gyfrifol am brosiectau cyfalaf peirianneg mawr, gan gynnwys adeiladu a gosod offer yn ardaloedd gweithgynhyrchu datblygiad ffatri maes glas gwerth $110M.
-
2009-2011: Beautiful Finish, Caerdydd
Yn arbenigo mewn datblygu ac adnewyddu eiddo traddodiadol, gan ddefnyddio technolegau ynni carbon isel a chael cyn lleied ag sy’n bosibl o effaith ar bensaernïaeth adeiladau ac ar yr amgylchedd. -
2011-2013: POD Point Ltd, Llundain
Cyfarwyddwr Gweithrediadau – yn gyfrifol am holl agweddau gweithredol cwmni bach, yn dylunio, datblygu, cynhyrchu a gwerthu mannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer y genhedlaeth ddiweddaraf o gerbydau trydan.
Meysydd o Ddiddordeb
- Dyfeisiau Meddygol
- Biowyddoniaeth
- Peirianneg Fecanyddol, Drydanol ac Electronig
- Gweithgynhyrchu
- Peirianneg Ansawdd
- Adeiladu a Pheirianneg Sifil
- Technolegau Carbon Isel
- Systemau Modurol
Sgiliau
- Rheoli prosiectau
- Datrys problemau
- Cynllunio strategol
- Cynllunio ariannol a negodi
- Peirianneg gyffredinol
- Rheoli gweithgynhyrchu
- Dilysu ansawdd a phrosesau
- Dylunio ar gyfer gweithgynhyrchu.