Os na fydd Rod Webster ar gael cysylltwch â Ann Sudder
Addysg/Academaidd
- Prifysgol Reading
BSc (Anrhydedd) 2.1 mewn Microbioleg â Chemeg, 1972
Cyflogaeth (y diweddaraf yn gyntaf)
- Cynllun Know-How Cymru yr Awdurdod Datblygu, rheolwr datblygu prosiectau rhanbarthol A4B, yna Arbenigwr Arloesi.
- Rheolwr Cymwysiadau Ymchwil a Datblygu, Adran Farchnata ICI Colours & Fine Chemicals, yna Zeneca Specialties, Manceinion.
- Prif Swyddog Ymchwil, Adran Fioleg a Gwyddor Protein, Cydffederasiwn Lledr Prydain, Northampton gan gynnwys trosglwyddo technoleg i Ddenmarc.
- Pennaeth Microsgopeg a Microbioleg, DSIR New Zealand Leather Research Association.
- Uwch Ficrobiolegydd, Dadansoddwyr Cyhoeddus ar gyfer Swydd Rydychen a Berkshire, gan gynnwys darlithio’n rhan-amser ym maes microbioleg i fyfyrwyr M.I.Biol. mewn coleg addysg uwch a throsglwyddo gwybodaeth i Cenia.
Aelod o Sefydliadau Proffesiynol
- Biolegydd Siartredig, Y Gymdeithas Fioleg
- Cymrawd o’r Gymdeithas Ficrosgopaidd Frenhinol
Profiad
- Y sector olew: datblygu bioladdwyr gyda KemaNobel, Sweden ar gyfer Saudi Aramco a BP ym Môr y Gogledd, a chynhyrchu a gwerthu pecynnau profi.
- Microbioleg bwyd, llygredd afonydd ac ecoleg ficrobaidd (microalgâu, protosoa, bacteria), ansawdd elifion wedi’u trin, profi aseptigrwydd deunydd fferyllol, bacterioleg filfeddygol (yn dal trwydded brofi ac ardystio Metritis Heintus Ceffylau gan Fwrdd Ardollau Betio Rasio Ceffylau), hematoleg a pharasitoleg filfeddygol, ymosodiadau gan ffwng ar bolywrethanau a microbioleg gwlân.
- Cydweithio ar ymchwil a datblygu: gydag Adran Fiodechnoleg Prifysgol Massey, a phrifysgolion Cranfield (diraddiad ceratin) a Leeds (cymhorthion llifo).
- Datblygu cynnyrch newydd ar gyfer cemegion arbenigol yn y marchnadoedd lledr a thecstilau (2 batent, 1 drwydded), gan gynnwys ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd a lansio: cemeg Ti/Zr/Al, chwistrelliad gwasgedd uchel parhaus cemegion prosesu, adweithyddion di-liw, biopolymerau.
- Biocemeg colagen; histoleg croen anifeiliaid; biotechnoleg ensymau; biotechnoleg ficrobaidd celloedd cyfan. Diagnosteg megis labelu imiwno-aur, ATP (y brifysgol gyntaf i ddefnyddio mesurydd golau DuPont yn y Deyrnas Unedig), technegau microsgopeg ddadansoddol (fflworoleuedd, isgoch, microsgopeg electron sganio, gan gynnwys y defnydd diwydiannol cyntaf o ficrostiliwr PIXE yn Mhrifysgol Rhydychen).
Sgiliau eraill
- Creadigol / meddwl yn feirniadol
- Marchnata technoleg
- Sgiliau negodi a rheoli cysylltiadau (yn enwedig cysylltiadau diwydiannol-academaidd).
Contact details
Name:
Rod Webster
Telephone:
0300 062 5417, 07747 693 859
Email:
Specialist region covered:
Ynys Môn