Find your next export market

Export Hub

Yr holl wybodaeth allforio sydd ei hangen ar eich busnes

Cofrestrwch heddiw!

 

Mynediad i filoedd o dudalennau, adroddiadau ac offer i gefnogi eich taith allforio.*

 

Manteision allweddol

Archwilio marchnadoedd

Darganfyddwch ragor am y cynhyrchion a'r gwledydd sydd o ddiddordeb i chi drwy archwilio llifau mewnforio / allforio, proffiliau gwledydd, y gwledydd gorau ar gyfer masnach ac adroddiadau marchnad perthnasol.

Dod o hyd i gleientiaid

Cymerwch gip ar gronfeydd data i ddod o hyd i sioeau masnach, mewnforwyr, marchnadoedd a thendrau ar gyfer eich cynhyrchion, a gwledydd o ddiddordeb.

Gwirio rhwystrau

Cael gwybodaeth gynhwysfawr am drethi, tollau tramor, rheolaethau mewnforio ac allforio. Gwiriwch a yw swyddog neu gwmni cyfatebol wedi'i gosbrestru, a chyfrifo eich costau glanio nwyddau a'ch pris gwerthu.


 

Rheoli llwythi

Paratowch eich trafodiadau drwy wirio rheolau a safonau cydymffurfio ar gyfer eich llwythi, dod o hyd i'ch rhifau dosbarthu tollau lleol a HS, a throsi eich mesuriadau i unrhyw uned.

Cynghorion ar gyfer masnach

Gall rheoliadau allforio ac arferion masnachol amrywio'n fawr o wlad i wlad. Bydd canllawiau'r Hyb yn eich helpu i ddeall “rheolau'r gêm” rhyngwladol yn well, gan eich helpu i fynd at farchnadoedd newydd yn hyderus.

Canllaw i ddefnyddwyr

Dysgwch am yr Hyb Allforio a'i nodweddion.  Darperir senarios enghreifftiol i ddangos yr hyn mae’r Hyb yn gallu ei wneud.

Cael yr wybodaeth sydd ei hangen ar eich busnes

Cofrestrwch heddiw!


* I fod yn gymwys, rhaid i chi fod yn gwmni yng Nghymru sy'n allforio neu'n bwriadu allforio.
Nid yw'r adnodd hwn ar gael i ymgynghorwyr neu gontractwyr allforio/masnach.


Helpu busnesau fel eich un chi

Hyfforddiant allforio

Diddordeb mewn allforio ond ddim yn gwybod ble i ddechrau?  Edrychwch ar y cyrsiau allforio rhagarweiniol a chanolradd ar y Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS).

Gweminarau

Edrychwch ar ein casgliad o weminarau allforio a recordiwyd sy'n cynnwys canllawiau a chyngor, gwybodaeth am y farchnad a phynciau sy'n canolbwyntio ar y sector.

Digwyddiadau Allforio

Archwilio teithiau masnach, arddangosfeydd masnach a digwyddiadau datblygu allforio yng Nghymru sydd ar y gweill.