Export Generic - port cranes

Hyfforddiant Allforio

Gwella eich potensial allforio

 

 

Dechreuwch eich addysg allforio heddiw gyda'n cyrsiau cryno i ddechreuwyr, sydd ar gael drwy'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS)

Cyrsiau sydd ar gael

Cyflwyniad i allforio

Mae'r cwrs hwn yn manylu ar y manteision y gall allforio eu cynnig i'ch busnes, yn eich helpu i asesu a ydych yn barod i allforio, ac yn tywys drwy agweddau allweddol allforio.

Elfennau allweddol allforio

Bydd y cwrs hwn yn eich tywys drwy’r broses o  ddewis marchnad allforio, llwybrau / strategaethau mynediad a chynllunio ar gyfer ymweliadau â'r farchnad.

Canllaw canolradd i allforio

Help i allforwyr presennol greu a gweithredu strategaeth allforio lwyddiannus. Dysgwch am yr heriau ariannol, cyfreithiol a logistaidd unigryw o allforio a sut i ddelio â nhw.

Farchnata Rhyngwladol

Dysgwch pam mae angen addasu strategaethau marchnata ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol a'r ffordd orau i'w teilwra.

Allforio ar gyfer Cwmnïau Gwasanaeth

Dysgwch am yr agweddau unigryw ar allforio gwasanaethau, sut i ddod o hyd i farchnadoedd a chwsmeriaid, ac archwilio'r materion allweddol sydd angen eu hystyried.

Allforio drwy E-Fasnach

Dysgwch am y cyfleoedd sydd ar gael o werthu ar-lein a'r ystyriaethau sydd eu hangen i sicrhau eFasnach rhyngwladol effeithiol.

 

Eisiau mynd â'ch busnes a'ch datblygiad staff i'r lefel nesaf?

Gall y Grant Hyfforddiant Allforio ddarparu hyd at £25,000 ar gyfer cyrsiau i ddatblygu eich arbenigedd allforio.

Grant Hyfforddiant Allforio