Dod o hyd i gyfleoedd allforio

Pan fyddwch chi’n hyderus eich bod yn barod, bydd angen i chi ddechrau chwilio am y cyfleoedd yn eich dewis farchnad. Ydy, mae’n haws dweud na gwneud, oherwydd mae ieithoedd a diwylliannau gwahanol yn gallu ei gwneud hi’n anodd canfod y bobl rydych chi am wneud busnes gyda nhw – a’i gwneud hi’n anodd cyfathrebu â nhw hefyd.

Sut y gallwn ni helpu

Gan ddefnyddio ein cysylltiadau byd-eang gallwn ni eich helpu chi i gysylltu â’ch cwsmeriaid neu’ch partner delfrydol. Mae gennym fynediad at arbenigwyr ar lawr gwlad mewn marchnadoedd tramor – pobl sy’n siarad yr iaith, yn deall yr arferion busnes ac yn gwybod yn well na neb sut i gyrraedd eich cwsmeriaid. Bydd ein rhwydwaith byd-eang yn gallu: 

  • Cynnig gwybodaeth fusnes ar lefel leol 
  • Rhoi cyngor ar amodau a rheoliadau masnachu lleol 
  • Adnabod cwsmeriaid, asiantwyr neu ddosbarthwyr posibl, a chysylltu â nhw 
  • Trefnu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb gyda phobl sydd â diddordeb, a dod gyda chi hyd yn oed os byddwch chi’n teimlo bod angen y lefel honno o gefnogaeth
Camau Nesaf Cyrraedd y farchnad
Export Hub

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf i'ch helpu i archwilio marchnadoedd, dod o hyd i gleientiaid, gwirio rhwystrau, rheoli llwythi a llawer mwy.

Cofrestrwch heddiw!
Barod i ddechrau eich taith allforio?

Os ydych yn barod i ddechrau neu eisoes ar eich taith allforio ac eisiau gwybod sut gallwn ni helpu, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â'r tîm