Pan allforio?

Beth bynnag rydych yn ei gynnig – gwasanaethau, trwyddedau neu gynnyrch – fe allai allforio weddnewid bron pob elfen o’ch busnes. 

Heblaw am fanteision amlwg gwerthu rhagor a gwneud mwy o elw, mae allforwyr llwyddiannus yn dweud bod masnachu’n rhyngwladol yn rhoi manteision eraill iddynt dros eu cystadleuwyr: 
 

  • mae busnesau yn tueddu i ddod yn fwy hyblyg wrth ymateb i farchnadoedd heriol
  • mae addasu gwasanaethau neu gynnyrch er mwyn cyflenwi marchnadoedd newydd yn annog creadigrwydd ac arloesedd 
  • gallwch wneud arbedion drwy gyfeintiau mwy a chostau is 
  • mae cylch bywyd cynnyrch yn fwy mewn marchnadoedd newydd 
  • mae risg yn cael ei rannu rhwng sawl marchnad
Camau nesaf Camau cyntaf?
Straeon llwyddiannus

Gwrandewch ar yr hyn sydd gan allforwyr llwyddiannus i'w ddweud a dysgwch ragor am sut y gwnaethom eu helpu i gyflawni eu nodau.

Straeon llwyddiannus
Hyfforddiant allforio

Diddordeb mewn allforio ond ddim yn gwybod ble i ddechrau?  Edrychwch ar y cyrsiau allforio rhagarweiniol a chanolradd ar y Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS).

Hyfforddiant allforio