Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos gyda ni yn Arab Health, Dubai, yr Emiraethau Arabaidd Unedig. 


Pam Arab Health?

Arab Health yw’r sioe fasnach fwyaf yn y Dwyrain Canol i’r sector meddygol, yn denu dros 4,200 o arddangoswyr o 150 o wledydd, yn amrywio o sefydliadau sydd ar flaen y gad yn fyd-eang i gwmnïau  bach, a mwy na 105,000 o ymwelwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau o Gymru.

Pam Mynd ar yr Ymweliad? 

Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon. Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:

  • Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
  • Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
  • Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
  • Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
  • Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Y Gost

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan un ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd:

Arddangoswr – Mae’r gost arddangos un ai’n £4,500.00* am sgwâr. Mae hyn yn cynnwys:

  • Hedfan allan ac yn ôl a throsglwyddiadau o fewn y farchnad
  • Llety am 6 noson (gyda brecwast)
  • Tocyn 4 diwrnod i arddangosfa Arab Health
  • Stondin arddangos a chofrestru ar gyfer yr arddangosfani.
  • Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni. 

Ymwelydd - Mae'r gost yn £1,250.00*.Mae hyn yn cynnwys:

  • Hedfan allan ac yn ôl a throsglwyddiadau o fewn y farchnad
  • Llety am 6 noson (gyda brecwast)
  • Tocyn 4 diwrnod i arddangosfa Arab Health
  • Mae’r cynnig hwn ar gael i un gynrychiolydd o bob cwmni. 

*Yn amodol ar fod yn gymwys