Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yng Nghonfensiwn Rhyngwladol BIO yn San Diego (USA).

Mae’r digwyddiad hwn, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfle cyffrous i fusnesau o bob maint i gynyddu eu gweithgareddau allforio a hynny drwy gysylltu â busnesau o bedwar ban byd sydd yn y sector Gwyddorau Bywyd.

Pam Confensiwn Rhyngwladol BIO? 
Mae’r Sefydliad Arloesi Biotechnoleg (BIO) yn cynrychioli mwy na 1100 o gwmnïau biotechnoleg, sefydliadau academaidd, canolfannau biotechnoleg gwladol a chyrff cysylltiedig ledled yr Unol Daleithiau ac mewn mwy na 30 o wledydd eraill.

Y llynedd, arddangosodd BIO 2023 bedwar diwrnod o waith rhaglennu ysbrydoledig. Croesawyd mynychwyr o dros 20,559 o gwmnïau o 73 o wledydd a chynhaliwyd 57,044 o gyfarfodydd partneru.

PAM MYND?
Bydd yr ymweliad hwn yn rhoi cyfle ichi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a datblygu eich allforion yn y sector hwn. 
Trwy gymryd rhan yn yr ymweliad hwn byddwch yn elwa ar y canlynol: 

  • Dull cost effeithiol o ymweld â’r farchnad
  • Rhwydweithio ac ymwneud â busnesau allweddol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau o fewn y farchnad 
  • Rhannu dealltwriaeth a gwybodaeth gyda chyfranogwyr eraill 
  • Cymorth â threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig 
  • Cyfle i fynychu digwyddiadau rhwydweithio 
  • Cewch eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata

Y GOST
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yng Nghonfensiwn Rhyngwladol BIO. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan naill ai yn arddangoswr neu yn ymwelydd:  

Arddangoswr
Y gost yw £4,750.00. Mae hyn yn cynnwys:
•    Lle ar stondin Cymru
•    Hedfan allan ac yn ôl
•    Trosglwyddiadau yn y farchnad
•    Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Gwener)
•    Mynd i ddigwyddiadau yn y farchnad gan gynnwys digwyddiadau rhwydweith#
•    io i fusnesau
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni. 

Ymwelydd
Y gost yw £1,850.00. Mae hyn yn cynnwys:

•    Hedfan allan ac yn ôl
•    Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
•    Llety am 6 noson gyda brecwast
•    Mynediad i’r sioe fasnach
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata 
•    Cyfle i ddefnyddio man cyfarfod ar stondin Cymru
•    Mynd i ddigwyddiadau yn y farchnad gan gynnwys digwyddiadau rhwydweithio i fusnesau

Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni. 

Manylion y Digwyddiad 
Pryd: 2-7 Mehefin 2024
Sector: Biotechnoleg a fferyllol
Ble: San Diego 

REFEN 
2 Mehefin – Gadael am San Diego
3-7 Mehefin Confensiwn Rhyngwladol BIO / Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd
7 Mehefin – Dychwelyd i Gymru

Gwasanaeth Trefnu Cyfardodydd 
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodtydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.

Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 5 Ebrill 2024 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.

Mae prisiau yn amodol ar TAW.

*Yn amodol ar fod yn gymwys.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau teithio yn unig yw 19 Ebrill 2024