Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â ICOE / Ocean Energy Europe.
Pam ICOE / Ocean Energy Europe?
Eleni bydd yr International Conference on Ocean Energy (ICOE) ac Ocean Energy Europe yn cydweithio i gynnal y rhwydwaith mwyaf o arbenigwyr ym maes ynni cefnfor yn y byd.
Disgwylir y bydd mwy na 900 o gynrychiolwyr a busnesau o bedwar ban byd yn dod i'r digwyddiad yn San Sebastián.
Bydd y rhaglen yn cynnwys cymysgedd o ymchwil a datblygu trawsbynciol, yn ogystal â thrafodaethau ar sut i'w rhoi ar waith ar raddfa ddiwydiannol. Bydd busnesau yn myfyrio ar eu gweithgarwch hyd yn hyn, ac yn meddwl am y ffordd ymlaen.
Pam y dylid mynd?
Bydd yr ymweliad hwn yn rhoi cyfle ichi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a datblygu eich allforion yn y sector hwn.
Drwy gymryd rhan yn yr ymweliad hwn, byddwch yn elwa ar y canlynol:
- Ffordd gosteffeithiol o ymweld â'r farchnad.
- Rhwydweithio ac ymgysylltu â busnesau allweddol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y farchnad.
- Rhannu profiadau a gwybodaeth â chyfranogwyr eraill.
- Help gyda threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig.
- Cyfle i fynd i ddigwyddiadau rhwydweithio.
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata.
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â'r farchnad allforio.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnig lleoedd i gwmnïau o Gymru sydd am gymryd rhan yng nghynhadledd ICOE / Ocean Energy Europe.
Pecyn Arddangosfa Cost: £1,800.00 - mae hyn yn cynnwys:
- Cymorth i hyd at 2 gynrychiolydd.
- Lle arddangos ym mhafiliwn Cymru.
- Tocyn Cynrychiolydd i'r Gynhadledd.
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata.
- Cyfle i ddefnyddio'r man cyfarfod ar stondin Cymru.
- Tocyn awyren a llety
Pecyn Cynrychiolydd Cost: £650.00 - mae hyn yn cynnwys:
• Cymorth i hyd at 1 person.
• Tocyn Cynrychiolydd i'r Gynhadledd a'r arddangosfa.
• Tocyn awyren a llety
*Yn amodol ar fod yn gymwys
Eich ymrwymiad
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn yr arddangosfa hon. Rydym yn awgrymu'n gryf mai dim ond os gallwch ymrwymo i amserlen yr arddangosfa hon a sicrhau bod cynrychiolydd y cwmni ar gael am gyfnod cyfan y digwyddiad y dylech wneud cais.
Mae recriwtio ar gyfer y digwyddiad yma bellach wedi cau