Hoffai Llywodraeth Cymru roi cyfle i’ch cwmni gymryd rhan yn rhith-arddangosfa MRO TransAtlantic.

Pam ddylwn i gymryd rhan?

Mae MRO TransAtlantic yn dod â chymunedau traddodiadol MRO Americas a MRO Ewrop at ei gilydd mewn un fforwm byd-eang. Bydd y rhith-ddigwyddiad hwn yn farchnad ddigidol lle gall cwmnïau hedfan, gweithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol, a chyflenwyr ym maes cynnal a chadw, atgyweirio a gweithrediadau (MRO) ddod o hyd i gynhyrchion a datblygiadau arloesol newydd ac arddangos yr hyn sydd ganddyn nhw i’w gynnig. Bydd yn gyfle i feithrin cysylltiadau â phartneriaid busnes sydd ganddynt eisoes a chyda phartneriaid newydd, ac i rannu gwybodaeth ac arferion gorau. 

Dyma nod MRO TransAtlantic ar gyfer y rhith-ddigwyddiad hwn:

  • Darparu cynnwys o’r radd flaenaf, sydd wedi ennill sawl gwobr – newyddiaduraeth, gwybodaeth a data – er mwyn ennyn diddordeb a hwyluso’r trafod
  • Mynediad i’r gynulleidfa hedfanaeth a MRO drwy sianeli digidol a chronfa ddata gyflawn o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes MRO a hedfanaeth
  • Cynnwys sydd ar flaen y gad yn y maes, gan gynnwys gweminarau, anerchiadau technegol, arddangosfeydd o gynhyrchion, a llawer mwy 
  • Rhith-arddangosfa sy’n cysylltu prynwyr â gwerthwyr. Cyflymu’r broses rwydweithio drwy baru cwmnïau er mwyn helpu’r rheini a fydd yn bresennol i ddod o hyd i atebion a helpu darparwyr i ddod o hyd i gwsmeriaid.

Y Gost

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig lleoedd rhagarweiniol rhad ac am ddim yn rhith-arddangosfa MRO TransAtlantic i gwmnïau yng Nghymru sy’n awyddus i allforio. Mae’r pecyn (premiwm) di-dâl hwn yn cynnwys:

 

Y Pecyn Premiwm:

• Cael blaenoriaeth mewn chwiliadau

• Cael sylw ar y rhuban

• Enw’r cwmni, a disgrifiad ohono

• Logo’r cwmni

• 10 o ddefnyddwyr

• 40 o geisiadau am gyfarfodydd ar gael i bob defnyddiwr

• Lanlwytho 10 o gynhyrchion

• Nifer mwyaf o gysylltiadau â chwmnïau â diddordeb: diderfyn

• Mynediad i sesiynau cynadledda

 

Gan ddibynnu ar y niferoedd, yn ogystal â rhith-fwth etc. fel uchod, mae’n bosibl y bydd gan gwmnïau hefyd bresenoldeb yn rhith-bafiliwn Cymru.

 

Eich ymrwymiad chi

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y digwyddiad hwn, felly, er na chodir tâl arnoch am gymryd rhan ynddo, rydym yn argymell yn gryf mai dim ond os gallwch ymrwymo i wneud unrhyw waith paratoi sydd ei angen, ac ymrwymo adnoddau staffio ar gyfer y digwyddiad ar ei hyd, y dylech wneud cais.    

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 21 Medi 2020