Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei rhith-ymweliad â marchnad allforio De Affrica. 

Pam De Affrica? 
Mae De Affrica yn farchnad soffistigedig ac addawol sy’n cynnig cyfuniad o seilwaith economaidd o’r radd flaenaf ynghyd ag economi marchnadoedd sy’n llewyrchus ac yn parhau i ddatblygu. Mae gan De Affrica adnoddau naturiol niferus, system fancio ddatblygiedig; seilwaith da gyda chyfalaf sylweddol i’w ddatblygu ymhellach; diwylliant busnes sy’n debyg i ddiwylliant y DU. Mae De Affrica hefyd yn cynnig llwybr i farchnadoedd Affricanaidd eraill. 

Pam Mynd ar y Rhith-ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.

Drwy fod yn rhan o’r rhith-ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:

  • Ffordd gost-effeithiol o ymchwilio i’r farchnad heb orfod gadael eich swyddfa na’ch cartref
  • Golwg gyffredinol ar y farchnad a’r sefyllfa ddiweddaraf
  • Rhith-gyfarfod i ddod i adnabod cysylltiadau busnes a phenderfynwyr defnyddiol yn y farchnad
  • Cymorth un-i-un gan ein cynrychiolydd yn y farchnad
  • Eich cynnwys mewn deunydd marchnata digidol.

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig lleoedd cychwynnol am ddim yn ei rhith-ymweliad i fusnesau o Gymru â marchnad allforio De Affrica.  Bydd y rhith-ymweliad yn cynnwys:

  • Rhith-sesiwn friffio am y farchnad
  • Trefnu rhith-gyfarfodydd â hyd at 3-4 cyswllt busnes a phenderfynwr yn y farchnad
  • Cymorth un-i-un â chynrychiolydd yn y farchnad
  • Eich cynnwys mewn deunydd marchnata digidol.

Eich Ymrwymiad
Bydd y rhith-ymweliad hwn â’r farchnad allforio yn cael ei gynnal dros gyfnod o 8-12 wythnos, trwy alwadau fideo rhwng 9-2. Ni fyddant yn digwydd bob dydd, a chewch rybudd eu bod yn cael eu cynnal. Byddwn yn gallu cadarnhau yn y cyfarfodydd un-i-un pryd y byddwch chi ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn yr ymweliad hwn felly ni godir tâl arnoch i gymryd rhan, ond rydym yn gofyn ichi beidio â gwneud cais oni bai’ch bod yn gallu addo eich bod ar gael ar gyfer y cyfarfodydd a drefnir ichi.

Mae recriwtio ar gyfer y digwyddiad yma bellach wedi cau

*Yn amodol ar fod yn gymwys.