Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei rhith-ymweliad â marchnad allforio Qatar.
Pam Qatar? Pam Qatar?
Er bod Qatar yn wlad gymharol fach, mae hi’n un o’r cyfoethocaf yn y byd gyda GDP y pen uchel iawn. Mae’r farchnad gyfoethog hon â’i phoblogaeth ar gynnydd ac economi ffyniannus yn mynd o nerth i nerth. .
Mae gan Qatar raglenni seilwaith uchelgeisiol sy’n eu sbarduno gan ei Gweledigaeth Genedlaethol erbyn 2030 a chwpan y byd pêl-droed 2022. Mae hefyd yn buddsoddi yn ei system gofal iechyd gan ei thrawsnewid o fod yn fodel ymatebol o fewn ysbytai i system gymunedol sy’n canolbwyntio ar atal.
Mae Qatar yn cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau o Gymru o fewn sectorau uchel eu gwerth gweithgynhyrchu, gwyddorau bywyd a thechnoleg.
Pam Mynd ar y Rhith-ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r rhith-ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
- Ffordd gost-effeithiol o ymchwilio i’r farchnad heb orfod gadael eich swyddfa na’ch cartref
- Golwg gyffredinol ar y farchnad a’r sefyllfa ddiweddaraf
- Rhith-gyfarfod i ddod i adnabod cysylltiadau busnes a phenderfynwyr defnyddiol yn y farchnad
- Cymorth un-i-un gan ein cynrychiolydd yn y farchnad
- Eich cynnwys mewn deunydd marchnata digidol.
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig lleoedd cychwynnol am ddim yn ei rhith-ymweliad i fusnesau o Gymru â marchnad allforio Qatar. Bydd y rhith-ymweliad yn cynnwys:
- Rhith-sesiwn friffio am y farchnad
- Trefnu rhith-gyfarfodydd â hyd at 3-4 cyswllt busnes a phenderfynwr yn y farchnad
- Cymorth un-i-un â chynrychiolydd yn y farchnad
- Eich cynnwys mewn deunydd marchnata digidol.
Eich Ymrwymiad
Bydd y rhith-ymweliad hwn â’r farchnad allforio yn cael ei gynnal dros gyfnod o 6-8 wythnos, trwy alwadau fideo rhwng 9-12am. Ni fyddant yn digwydd bob dydd, a chewch rybudd eu bod yn cael eu cynnal. Byddwn yn gallu cadarnhau yn y cyfarfodydd un-i-un pryd y byddwch chi ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn yr ymweliad hwn felly ni godir tâl arnoch i gymryd rhan, ond rydym yn gofyn ichi beidio â gwneud cais oni bai’ch bod yn gallu addo eich bod ar gael ar gyfer y cyfarfodydd a drefnir ichi.
Mae recriwtio ar gyfer y digwyddiad yma bellach wedi cau
*Yn amodol ar fod yn gymwys.