Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei ymweliad hybrid cyntaf â marchnad allforio yn Düsseldorf, yr Almaen.
Bydd yr ymweliad hybrid hwn yn dechrau ar 26 Tachwedd 2021 a bydd yn cynnwys 6-8 wythnos o gymorth rhithwir i helpu’ch cwmni i baratoi ar gyfer ymweliad â'r farchnad ar 7-11 Chwefror 2022.
Pam ddylech chi ymweld â’r Almaen?
Yr Almaen yw pedwaredd economi fwyaf y byd (Banc y Byd, 2019) a'r economi fwyaf yn Ewrop. Mae'n ddiwydiannol iawn, yn amrywiol ac yn sefydlog, gan gynnig potensial hirdymor a llawer o gyfleoedd i fusnesau o'r DU sy'n cynnig cynhyrchion arloesol, uchel eu hansawdd.
Pam ddylech chi gymryd rhan mewn ymweliad hybrid â marchnad allforio?
Mae ymweliad hybrid yn cyfuno manteision teithiau rhithwir ac ymweliad â'r farchnad ei hun. Bydd yn dechrau gyda chyfres o gyfarfodydd rhithwir gyda darpar bartneriaid busnes ac yn arwain at ymweliad â'r farchnad ei hun.
Bydd yn rhoi cyfle ichi arddangos eich cwmni, i feithrin cysylltiadau gwerthfawr ac i allforio mwy i’r farchnad hon.
Drwy gymryd rhan yn yr ymweliad hwn, byddwch yn elwa ar:
- Drosolwg o'r farchnad a’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol
- Cymorth un-i-un oddi wrth gynrychiolydd yn y farchnad
- Cael eich paru mewn ffordd wedi’i theilwra ar eich cyfer gyda chysylltiadau busnes posibl a’r bobl sy'n gwneud penderfyniadau yn y farchnad
- Ffordd gosteffeithiol o ymweld â'r farchnad
- Rhwydweithio ac ymwneud â busnesau allweddol a’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn y farchnad
- Rhannu gwybodaeth gyda busnesau eraill a fydd yn rhan o’r ymweliad
- Cymorth gyda threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
- Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer y daith
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn helpu* cwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hybrid hwn â marchnad allforio.
Y gost yw £600. Mae hyn yn cynnwys:
- Sesiynau briffio rhithwir am y farchnad a gweminarau i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich ymweliad â'r Almaen
- Cymorth un-i-un oddi wrth gynrychiolydd yn y farchnad cyn yr ymweliad
- Trefnu cyfarfodydd rhithwir gyda hyd at 3-4 o gysylltiadau busnes a’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn y farchnad hon, gan gynnwys cyflwyniadau rhithwir cyn yr ymweliad
- Hedfan yno ac yn ôl
- Cael eich cludo o fan i fan yn y farchnad
- Llety am 5 noson gyda brecwast
- Mynd i ddigwyddiadau yn y farchnad
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae'r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob busnes.
Eich ymrwymiad chi
Bydd yr ymweliad hybrid hwn â’r farchnad allforio yn cael ei gynnal dros 10-12 wythnos ac yn arwain at ymweliad â'r farchnad yn Düsseldorf ar 7-11 Chwefror 2022.
Cyn yr ymweliad â'r farchnad, bydd gweminarau a galwadau fideo yn cael eu cynnal rhwng 10 a 4pm. Sylwer na fyddant yn cael eu cynnal bob dydd a byddwch yn cael gwybod ymlaen llaw pryd y bydd y cyfarfodydd hynny’n cael eu cynnal. Bydd yr amseroedd a phryd y byddwch ar gael yn cael eu cadarnhau yn ystod eich cyfarfod
un-i-un. Bydd amserlen a rhaglen yr ymweliad â'r farchnad yn cael eu darparu ymlaen llaw.
Mae recriwtio ar gyfer y digwyddiad hwn bellach wedi cau.
Dim ond nifer cyfyngedig o becynnau sydd ar gael ar gyfer yr arddangosfa hon: cofrestrwch yn gynnar rhag ichi gael eich siomi. Sylwer: oherwydd COVID-19 a chyfyngiadau teithio, gallai'r arddangosfa hon gael ei newid neu ei chanslo ar fyr rybudd. Dim ond yn amodol ar reoliadau diweddaraf Lywodraeth Cymru ac ar y cyfyngiadau yn y farchnad hon y caniateir teithio.